Ysgoloriaethau Cyffredinol DTP ESRC Cymru
Mae Adran Daearyddiaetha Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (DTP Cymru), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaethau PhD, gyda’r posibilrwydd o ddyfarnu Ysgoloriaeth DTP ESRC a ariannir yn llawn, a fydd ar gael i gychwyn ym mis Hydref 2023.
Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr eithriadol sydd â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail uchel, neu radd Meistr briodol. Mae’r Brifysgol yn gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb ar bob lefel ac yn annog ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned, ni waeth beth fo’u hoedran, anabledd, rhyw, hunaniaeth ryweddol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol. Yn unol â’n hymrwymiad i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a chynyddu recriwtio gan grwpiau a dangynrychiolir, mae croeso ac anogaeth benodol i geisiadau gan ymgeiswyr Du Prydeinig, Asiaidd Prydeinig, ethnigrwydd lleiafrifol Prydeinig a hil gymysg Prydain. Rydym yn croesawu ceisiadau i astudio’n amser llawn neu’n rhan-amser, ac mae ysgoloriaethau ar gael fel naill ai ‘1+3’ (h.y. un flwyddyn gyfan o radd Meistr hyfforddiant ymchwil ac yna astudiaeth ddoethurol amser llawn neu gymhwyster cyfatebol rhan amser) neu ‘+3’ (h.y. tair blynedd o astudiaeth ddoethurol amser llawn neu gymhwyster cyfatebol rhan amser) yn dibynnu ar anghenion yr ymgeisydd.
Dylai’r sawl sydd â diddordeb gysylltu â’r Athro Gareth Hoskins, Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchradd Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth drwy tgh@aber.ac.uk, neu trafod syniadau â chyfarwyddwyr posib yn uniongyrchol.
Croesewir ceisiadau erbyn 12:00 hanner dydd, 3 Chwefror 2022.