Diwrnod 1: Sgyrsiau a Gweithdai
11.00 – 11.30: Cyrraedd a chofrestru
11.30 – 11.45: Croeso a chyflwyniad
11.30 – 12.30: Ble gall gyrfa yn y geowyddorau fynd â chi?
Alexandra Kilcoyne (Natural England): ‘Lliwio i mewn’ datblygedig a mwy o lol
Dyma fy ymateb safonol pan fydd pobl yn holi am fy swydd. Jôc glasurol y maes daearyddiaeth. Y gwahaniaeth yw, yn hytrach nag estyn am y pensiliau lliwio, rwy'n defnyddio delweddau lloeren a dysgu peirianyddol i ddysgu cyfrifiadur beth i'w liwio a lle. Yn y sgwrs hon, byddaf yn mynd â chi o'r fan lle dechreuodd y gwaith, yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, i gerdded arfordiroedd Lloegr a dynodi llwybrau cenedlaethol newydd, cyfrif gwylanod â dronau, gweithio gyda data lloeren o Asiantaeth Ofod Ewrop ac yn olaf datblygu syniad sydd bellach wedi dod yn rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd ar raddfa genedlaethol – hyn oll er mwyn helpu i amddiffyn ac adfer ein byd naturiol.
Marissa Lo (Geological Society of London): O wyddor planedau i gyhoeddi
Mae bron bawb rwy'n eu hadnabod wedi gofyn yr un cwestiynau i'w hunain wrth orffen yn y brifysgol: pa swydd ydw i eisiau ei gwneud? Sut mae gwybod pa swydd sy'n iawn i mi? Roeddwn i'n gofyn y cwestiynau yma i mi fy hun yng ngwanwyn 2022, wrth orffen fy nhraethawd ymchwil PhD ar fwlcanoleg y lleuad. Ers mis Mehefin 2022, rydw i wedi bod yn gweithio fel Golygydd Cynorthwyol ar gylchgrawn Geoscientist. Yn y sgwrs hon, byddaf yn rhannu fy awgrymiadau ar gyfer dewis swydd ar ôl y brifysgol fel rhywun sydd wedi mynd trwy'r broses honno'n ddiweddar iawn, yn ogystal â rhannu goleuni pellach ar wneud PhD a gweithio fel golygydd.
Kate Lambert-Smith (Dŵr Cymru): O Ddaeareg i Adnoddau Dŵr: dilynwch eich diddordebau a gweld i ble maen nhw'n mynd â chi
 minnau wrth fy modd â'r holl wyddorau, roeddwn i eisiau astudio rhywbeth cymhwysol oedd yn dod â nhw i gyd at ei gilydd. I mi, daeareg oedd y pwnc hwnnw. O'r man cychwyn hwnnw, mae fy ngyrfa wedi troelli o gwmpas hydroddaeareg, tir halogedig ac adnoddau dŵr. Dechreuais astudio gorffennol dwfn y Ddaear, ond nawr rwy'n edrych tua'r dyfodol ar reoli ein hadnoddau dŵr mewn hinsawdd sy'n newid.
12.30 – 13.45: Cinio a Q&A Gyrfaoedd yn y Geowyddorau
14.00 – 15.00: Gweithdy A
15.00 – 15.15: Egwyl
15.15 – 16.15: Gweithdy B
Dewiswch 2 o’r 3 gweithdy canlynol:
Trashcano! gyda Rhian Meara ac Annie Winson
Sut mae llosgfynyddoedd yn ffrwydro? Yn y gweithdy hwn byddwn yn creu model ‘trashcano’ i allu weld pŵer ffrwydrad folcanig ffrwydrol drosoch eich hunain a dysgu mwy am y peryglon folcanig sy’n effeithio’r bobl sy’n byw ger llosgfynyddoedd heddiw.
Geowyddorau Rhithwir: archwilio ein planed a thu hwnt! gyda Helen Miles ac Andra Jones
Mae cymaint o dechnolegau newydd yn cael eu datblygu i'n galluogi i gymysgu'r byd go iawn gydag amgylcheddau rhithwir. Yn y gweithdy hwn byddwn yn edrych ar rai technolegau fel realiti rhithwir a realiti estynedig, argraffu a sganio 3D, a gweld sut a pham y gallent fod yn rhan o becyn adnoddau'r geowyddonydd yn y dyfodol.
Gwaddod gwych! gyda Hywel Griffiths a Hollie Wynne
Mae prosesau amgylcheddol wedi llunio’r byd o’n cwmpas, ond sut ydyn ni’n gwybod pa sut oedd y prosesau hynny yn digwydd yn gorffennol? Gall archwilio gwaddodion a adawyd ar ôl gynnig rhai atebion. Gallwn hefyd ddefnyddio modelau ffisegol yn y labordy i drio ailgreu prosesau’r gorffennol ar raddfa fach. Bydd y sesiwn ymarferol hon yn edrych ar ba gliwiau sydd i’w canfod mewn gwaddod, a sut allwn ni eu defnyddio i ailgreu ffurfiant tirlun.
16.30 – 17.15: Paned a sesiwn Q&A Bywyd yn y Brifysgol
17.15 – 17.30: Diolch a chloi
Diwrnod 2: Taith maes ardal Aberystwyth
Byddwn yn ymweld â safleoedd daearegol a geomorffolegol nodedig yng Ngheredigion, gan gynnig cyfle i chi ddysgu mwy am y ddaeareg, a’r prosesau sydd wedi, ac yn parhau i, siapio’r tirlun – yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Bydd y daith ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yn cael ei arwain gan staff o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth.
Byddwn yn cwrdd am 9.30 yb ger mynedfa yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Adeilad Llandinam, Prifysgol Aberystwyth ac yn dychwelyd erbyn 3 yh.