Prif siaradwyr

Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r tri phrif siaradwr ar gyfer cynhadledd eleni: Dr Giovanni Batini, yr Athro Michaela Benson, a Dr Sophie Cranston.

 

Yr Athro Michaela Benson

Yr Athro Michaela BensonMae Michaela Benson yn Athro mewn Cymdeithaseg Gyhoeddus ym Mhrifysgol Caerhirfryn ac yn Brif Weithredwr y Sociological Review Foundation. Mae ei hymchwil presennol yn canolbwyntio ar fudo, dinasyddiaeth a ffiniau’r DU wedi Brexit a sut mae hyn yn berthnasol i hanes hirach o reolaethau mewnfudo hiliol. Mae'r ymchwil hwn wedi'i gefnogi gan gyllid gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a'r Academi Brydeinig. Yn ogystal â'i chyhoeddiadau academaidd, mae hi'n cynnal ac yn cynhyrchu Who do we think we are?, podlediad sy’n chwalu dealltwriaethau o ymfudo a dinasyddiaeth ym Mhrydain heddiw a gymerir yn ganiataol.

Teitl amodol:

Migration and the making of ‘Global Britain’: state-making, statecraft in and through the migration-citizenship regime after Brexit

 

Dr Giovanni Bettini

Dr Giovanni BettiniMae Giovanni Bettini – Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerhirfryn – wedi bod yn ymchwilio i sut mae newid amgylcheddol – yn ei gymeriad planedol ond anwastad, ac sydd ynghlwm wrth gyfres o ‘argyfwng’ cyfoes a chymynroddion hanesyddol – yn creu gofodau newydd, dulliau llywodraethu, goddrychedd a ffurfiau o ymwrthedd. Mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar y cysylltiadau rhwng newid hinsawdd a symudedd dynol. Mae Giovanni yn cydlynu’r prosiect a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme Digital Climate Futures: a decolonial and justice perspective on digitalised climate change adaptation, sy’n archwilio rôl y digidol wrth ail-lunio ymaddasu, gwytnwch a chyfiawnder. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer y Ganolfan Ymchwil Symudedd (CeMoRe) ym Mhrifysgol Caerhirfryn.

Teitl amodol:

Towards climate nomadism? Displacement, (im)mobilization and escape in the face of planetary crises

 

Dr Sophie Cranston

Dr Sophie CranstonMae Sophie Cranston yn Uwch Ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Loughborough, lle mae hi wedi gweithio am 10 mlynedd ar ôl cwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Caeredin. Mae ei phrif ddiddordeb ymchwil yn ymwneud â datgelu’r ffyrdd y mae mudo’n cael ei gategoreiddio, ei gynhyrchu, a’i brofi, yn enwedig ymhlith grwpiau a ystyrir yn freintiedig. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o bapurau ar yr alltud a’r myfyriwr rhyngwladol fel categorïau symudedd, y diwydiannau mudo a’u rôl wrth lunio symudedd a’u categorïau, a sut mae braint yn amlygu ei hun trwy fudo. Mae ei hymchwil wedi'i ariannu gan, ymhlith eraill, yr ESRC, cronfeydd eraill gan lywodraeth y DU a'r RGS-IBG. Mae Sophie yn ymwneud yn weithredol â Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Poblogaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain), gan gynnwys fel cadeirydd rhwng 2021 a 2023. Mae hi’n aelod o fyrddau golygyddol y cyfnodolion Global Networks a Population, Space & Place.

Teitl amodol:

Categorising the Overseas Student: Settlement, Residence and Immigration