Bwrsarïau

Mae’n dda gennym adrodd bod Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Boblogaeth yr RGS-IBG yn cefnogi 15 bwrsari yn ffurf ildio ffioedd cofrestru. Mae’r bwrsarïau hyn wedi’u targedu ar gyfer y sawl heb gefnogaeth sefydliadol neu gyllid allanol i fynychu, neu â chefnogaeth gyfyngedig. Mae’n bosib y blaenoriaethir cyflwynwyr a’r sawl sy’n deilwng am y gyfradd ostyngedig.

 

Er mwyn ymgeisio, anfonwch ddatganiad byr (dim mwy na 300 gair) yn esbonio sut yr ydych yn gymwys am fwrsari, a sut y byddwch yn elwa o fynychu’r gynhadledd at imigmob@aber.ac.uk erbyn 23:59 ar ddydd Llun, 5ed Mai. Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn diwedd 12fed Mai.