Labordy Arsylwi'r Ddaear
Lleolir Labordy Arsylwi'r Ddaear yn Nhŵr Llandinam ac mae yno feddalwedd a chaledwedd o'r radd flaenaf ar gyfer prosesu, dadansoddi a dehongli gwybodaeth ofodol. Ar gyfer prosesu data a synhwyrir o bell yn gyffredinol, mae IDL ENVI, Erdas ac eCognition ar gael, ac ar gyfer prosesu arbenigol LiDAR a SAR, mae meddalwedd Cyclone, TerraScan a Gamma SAR ar gael. Mae'r Labordy hefyd wedi datblygu ei sylfaen cod ei hun ar gyfer prosesu amrywiaeth o ddata (RSGISlib). Mae gweithfannau Windows a Linux pwrpasol yn y labordai. Ymhlith yr offer maes, mae sganiwr laser daearol Leica, systemau lleoli byd-eang differol a chamau stocrestr coedwigoedd. Mae labordy ymchwil pwrpasol hefyd ar gyfer myfyrwyr graddau PhD a Meistr gyda 15 o weithfannau.
Labordy Palaeoecoleg
Mae'r Labordy Palaeoecoleg yn rhan o Grŵp Ymchwil Newid Amgylcheddol Cwaternaidd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Mae'r ymchwilwyr yn ymchwilio i gofnodion gwaddodol y newid hinsoddol a llystyfiant o lynnoedd yn Ethiopia, Kenya a Mecsico. Mae prosiectau eraill yn ymwneud â hanes amgylcheddol ym Moroco, Twrci, Iwerddon a Chymru, ac adnabod paill yn gyfrifiadurol. Mae gan y labordy ystod o ddyfeisiau corio gwaddodion, ynghyd â sampleri dŵr a gwaddodion. Does dim byd tebyg yn unman i'r labordai paratoi paill, ac mae gan y labordy microsgopeg ficrosgopau Nikon, Zeiss a Leica, a nifer o gyfrifiaduron ar rwydwaith. Mae gan y casgliad cyfeirio paill ddeunydd o Ewrop, Gogledd America, Gogledd Affrica a Dwyrain Affrica. Mae technegau dadansoddol a ddefnyddir yn y Labordy yn cynnwys dadansoddiadau paill, siarcol, ostracod a diatom, gwaddodeg toriad tenau wedi'i fewnosod â resin, dadansoddiadau isotop sefydlog o garbonadau llynnol (mewn cydweithrediad â Labordy Geocemeg Isotop NERC), a chemeg elfennau hybrin dŵr a microffosilau calchaidd gan ddefnyddio adnoddau cromatograff ïon Dionex DX-100 ac ICP-MS y Sefydliad.
Ar gyfer dadansoddi gwaddodion, mae sganiwr craidd XRF ar gael.
Labordy Ymchwil Goleuedd Aberystwyth
Mae Labordy Ymchwil Goleuedd Aberystwyth (ALRL) yn ymfalchïo mewn bod yn labordy ymchwil o safon fyd-eang sy'n ymchwilio i'r mecanweithiau ffisegol cysylltiedig â goleuedd a gynhyrchir gan fwynau sy'n bodoli'n naturiol, a chymhwyso hyn i'r gwaith o ddyddio gwaddodion er mwyn egluro digwyddiadau Cwaternaidd, i oleuo ein gwybodaeth ynghylch esblygiad bodau dynol anatomegol fodern ac i ddiffinio cyfraddau prosesau geomorffolegol.
Prif nod y labordy yw gwneud gwaith ymchwil arloesol o safon fyd-eang i ddatblygiad a chymhwysiad dyddio ymoleuedd. Gwneir y gwaith ymchwil gan staff, myfyrwyr ôl-raddedig a chymrodyr ôl-ddoethurol ar ystod o bynciau. Mae llawer o'r myfyrwyr PhD a'r Chynorthwywyr Ymchwil Ôl-ddoethurol a hyfforddwyd yn ALRL wedi mynd ymlaen i redeg eu labordai eu hunain ledled y byd. Yn ogystal, mae'r labordy yn aml yn croesawu ymwelwyr nodedig o dramor, naill ai gwyddonwyr o labordai goleuedd eraill o ran arall o'r byd sy'n dymuno treulio amser gydag ymchwilwyr ALRL, neu bobl sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol o oleuedd ac sy'n dymuno dysgu'r dechneg.
Mae ALRL yn gyfleuster a gydnabyddir gan NERC, am ei gyfranogiad cydweithredol mewn prosiectau dyddio penodol, ac am hyfforddi ymchwilwyr ym maes dyddio goleuol. Yn ogystal, mae'r cyfnodolyn Ancient TL, sy'n delio â materion cysylltiedig â chymhwyso goleuedd a dyddio cyseiniant sbin electronau wedi'i gyhoeddi gan ALRL ers 2004.