Pwysigrwydd cael cydnabyddiaeth yn ystod eich bywyd
Ar lawer cyfrif, gadael darpariaeth i Aber yn eich ewyllys yw'r rhodd orau oll. Mae'n dangos eich ffydd yng ngwerthoedd Aber, ac mae'n creu tystiolaeth fyw i'r cariad hwnnw y tu hwnt i'ch marwolaeth.
Mae'r Brifysgol yn credu y dylid cydnabod y fath ymrwymiad i'r dyfodol mewn modd sy'n mynd y tu hwnt i goffáu yn unig; dylid anrhydeddu'r rhai sy'n dewis cyfoethogi'r dyfodol hwnnw, a diolch iddynt, yn ystod eu hoes. Dyna pam rydym wedi sefydlu Cymdeithas 1872, a enwyd i ddathlu blwyddyn sefydlu'r Brifysgol.
Rhoddir aelodaeth o'r Gymdeithas i bawb sydd wedi dangos bod ganddynt fwriad i adael rhodd i Aber. Deallwn fod penderfyniad o'r fath yn aml yn fater preifat a phersonol, ac felly ni fydd rhestr o aelodau yn cael ei chyhoeddi, ond fe gynhelir cinio blynyddol lle y bydd y Brifysgol yn gallu diolch i'r aelodau mewn modd tawel ac ystyrlon, a rhoi gwybod iddynt am ein cynlluniau datblygu presennol.
Mae'r Brifysgol hefyd yn elwa o brofiad a doethineb aelodau Cymdeithas 1872 drwy gael eu cyngor ar ei bwriadau ar gyfer y dyfodol.
Mawr obeithiwn y byddwch yn dymuno bod yn aelod o'r gymdeithas ddethol ac arbennig iawn hon i'n rhoddwyr. Cewch gysylltu â ni drwy ffonio neu ebostio i roi gwybod am eich penderfyniad i adael cymynrodd i Aber ac fe gewch aelodaeth o Gymdeithas 1872 yn awtomatig.