Osgoi Straen yn ystod y Clirio

Student working on North Beach.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae iechyd a lles ein myfyrwyr yn brif flaenoriaeth. Rydym yn sylweddoli gall y broses Glirio fod yn anodd ar adegau ac rydym am geisio gwneud y broses mor syml â phosibl.

Dyma bum ffordd o beidio â phryderu ac aros yn gadarnhaol drwy gydol y broses Glirio:

  1. Ymbaratowch ymlaen llaw - Ymbaratowch ymlaen llaw ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd posib, fel na fydd dim byd yn annisgwyl. Yna, beth bynnag sy'n digwydd, bydd gennych gynllun yn barod i’w roi ar waith os byddwch angen defnyddio Clirio. Ymchwiliwch i gyrsiau a phrifysgolion posibl cyn y diwrnod canlyniadau, gan bwyso a mesur manteision ac anfanteision pob un, a lluniwch restr fer. Nodwch y cyrsiau sydd ar y rhestr fer yn eu trefn, yn ôl pa rai fyddai orau gennych, a chofiwch hefyd nodi manylion cyswllt ar gyfer pob un, yn ogystal ag unrhyw nodiadau neu gwestiynau. 

    Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein cyrsiau neu am astudio yn Aberystwyth cyn y diwrnod canlyniadau, cysylltwch â ni ar ymholiadau@aber.ac.uk / 01970 622065.

  2. Meddyliwch yn gadarnhaol - Ceisiwch beidio â digalonni os na chawsoch y graddau yr oeddech yn eu disgwyl. Mae Clirio yn rhoi cyfle arall i chi gyrraedd lle hoffech yn y pen draw. Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun.  Mae miloedd o fyfyrwyr eraill fel chi'n cael lle mewn prifysgol drwy Glirio bob blwyddyn.

  3. Cadwch feddwl agored - Hyd yn oed os oeddech chi 100% yn sicr am yr hyn yr oeddech am ei astudio pan wnaethoch eich cais UCAS, cymerwch rhywfaint amser i feddwl am bosibiliadau eraill. Efallai fod yna gwrs sy'n berffaith i chi ac nad oeddech chi erioed wedi meddwl amdano. Dyma'ch cyfle i ailystyried eich llwybr. Felly, cadwch feddwl agored ac edrychwch ar rhai cyrsiau a phrifysgolion nad oeddech wedi meddwl amdanynt o'r blaen. 

  4. Gofynnwch am gymorth - Sgwrsiwch â’ch ffrindiau a’ch teulu i helpu godi rhywfaint o bwysau’r penderfyniadau sydd angen eu gwneud, a gallai fod yn werthfawr iawn cael barn pobl eraill os teimlwch yn ansicr. Trafodwch eich opsiynau i gael gwell syniad am y dewisiadau cywir i chi. 

  5. Cychwyn ar y broses - Efallai ei bod hi’n ymddangos bod angen gwneud popeth nawr, ond mae’n bwysig nad ydych yn brysio. Pan fyddwch chi’n barod, cysylltwch â'r prifysgolion y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. Yn Aberystwyth, yn ogystal â ffonio ein Llinell Gymorth – 0800 121 40 80 – mae modd gwneud cais am le Clirio ar-lein, ac o ddiwrnod canlyniadau ymlaen, cysylltu â ni ar Sgwrsio Byw neu drwy gofrestru am alwad yn ôl. 

    Ar ôl i chi gael cynnig, peidiwch â theimlo dan bwysau i wneud penderfyniad. Cymerwch amser i feddwl. Ond cofiwch wneud yn siŵr eich bod yn ysgrifennu unrhyw derfynau amser, fel nad ydych yn anghofio.