Gwobrau 2019
Dathlwyd Gŵyl Dewi ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy anrhydeddu chwe unigolyn am eu cyfraniad at y Gymraeg mewn seremoni arbennig yn yr Hen Goleg, nos Iau 14 Mawrth 2019.
Sara Gibson, newyddiadurwraig gyda BBC Cymru Fyw a chyn-fyfyrwaig o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol oedd gwestai gwadd y noson. Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth. Derbyniodd pob un o'r enillwyr dystysgrif ac englyn personol gan Eurig Salisbury.
Yr Enillwyr
Dysgwr Disgair (staff)
Aelod o staff sydd wedi dysgu’r Gymraeg a sy’n gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio’r iaith wrth ei gwaith bob dydd. –
- Janet Hardy – Adran Cyfrifiadureg
Yn wreiddiol o Rydychen, mae Janet wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ers 1975 wedi iddi ddod i’r Brifysgol i astudio Ecoleg. Mae wedi ymroi yn llwyr i ddysgu’r Gymraeg wedi iddi gyrraedd Aberystwyth gan ddechrau siarad Cymraeg efo myfyrwyr ym Mhantycelyn a mynychu dosbarthiadau gyda’r nos. Mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith a’r Cynllun Mentora wedi’i hysgogi i fyw yn y Gymraeg.
Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle (staff)
Aelod o staff sydd wedi bod yn neilltuol o gefnogol i’r Gymraeg yn y gweithle.
- Trish Sadler-McGrath – Undeb y Myfyrwyr
Ymunodd Trish ag Undeb y Myfyrwyr yn 2016 ddim yn medru’r Gymraeg. Penderfynodd yn syth i ddechrau dysgu Cymraeg a gwneud dwyieithrwydd yn rhan o weledigaeth yr Undeb. Mae’n annog ei chyd-weithwyr i ddysgu’r iaith gan roi’r amser iddynt fynychu dosbarthiadau yn ystod oriau gwaith.
Astudio trwy’r Gymraeg (myfyriwr)
Myfyriwr sydd wedi goresgyn rhwystrau neu sydd wedi gwneud ymdrech arbennig ac yn gwbl ymroddedig i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Demi John – Adran y Gyfraith a Throseddeg
Myfyrwraig yn ei ail flwyddyn yn astudio’r Gyfraith a Throseddeg yw Demi. Yn wreiddiol o Benderyn, mynychodd ysgol cyfrwng Cymraeg Aberdâr, ond daw o gartref di-Gymraeg. Penderfynodd ddod i’r Brifysgol yn Aberystwyth oherwydd y gymuned Gymraeg clos sydd yma a’r cyfleon sydd i astudio’i chwrs yn y Gymraeg.
Pencampwr y Gymraeg (myfyriwr)
Myfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i Gymreictod y gymuned a/neu’r Brifysgol drwy wirfoddoli yn y gymuned leol neu drwy drefnu digwyddiadau yn Gymraeg i gyd-fyfyrwyr.
- Anne Robbins – Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Magwyd Anne yn Calgary, Canada ac mae’n astudio Astudiaethau Celtaidd yn y Brifysgol. Tu allan i’w hastudiaethau mae’n defnyddio ei Chymraeg gan wirfoddoli mewn sefydliadau lleol ac yn ei swydd rhan-amser yng nghaffis y Brifysgol.
- Rebecca Snell - Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Canlyniad torri coes oedd dysgu Cymraeg i Rebecca. Ar wyliau yn Sir Benfro, roedd hi’n methu ymuno yn y gweithgareddau, felly fe brynodd ei chwaer eiriadur Cymraeg-Saesneg iddi. Penderfynodd wneud Cwrs Haf Dysgu Cymraeg yn Aberystwyth ac o ganlyniad penderfynodd ddod i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cymraeg, a hynny wedi iddi cael ei derbyn i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn Sheffield. Fe weithiodd ar gwrs dwys Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn yr haf ac mae’n cefnogi gwaith yr Adran Gymraeg fel llysgennad.
Cyfraniad Arbennig i’r Gymraeg
- Dr Elin Royles - Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Yn Uwch Ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr y Gymraeg yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol, mae Elin yn lladmerydd cyson dros Gymreictod y sefydliad a statws yr iaith yn fewnol. Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a mynd y tu hwnt i’r disgwyl o fewn y gymuned academaidd cyfrwng Cymraeg. Mae’n gyfrannwr gweithgar at gynlluniau ac ymgyrchoedd denu myfyrwyr a hyrwyddo’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.