Gwobrau 2018
Dathlwyd Gŵyl Dewi ym Mhrifysgol Aberystwyth drwy anrhydeddu pedwar unigolyn am eu cyfraniad at y Gymraeg mewn seremoni arbennig yn yr Hen Goleg, nos Wener 16 Mawrth 2018.
Siaradwraig wadd y Gwobrau oedd Caryl Lewis, awdures a myfyrwraig ôl-raddedig o Brifysgol Aberystwyth a meistres y seremoni oedd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones. Diddanwyd y gynulleidfa gan Gôr Aelwyd Pantycelyn a derbyniodd pob un o'r enillwyr dystysgrif ac englyn personol gan Eurig Salisbury.
Yr Enillwyr
Dysgwr Disgair (staff)
Aelod o staff sydd wedi dysgu’r Gymraeg a sy’n gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio’r iaith wrth ei gwaith bob dydd. –
- Lucy Hodson – Cyfarwyddwr Cynllunio
Yn wreiddiol o Sir Gaerloyw, mae Lucy wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ers 5 mlynedd wedi iddi gael ei phenodi i swydd Cyfarwyddwr Cynllunio’r Brifysgol. Mae wedi ymroi yn llwyr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf i ddysgu’r Gymraeg ac wedi sefyll arholiad Mynediad gyda Dysgu Cymraeg. Penderfynodd Lucy ddysgu’r Gymraeg er mwyn sicrhau cadw’r iaith yn fyw ac am ei bod hi’n byw yng Nghymru.
Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle (staff)
Aelod o staff sydd wedi bod yn neilltuol o gefnogol i’r Gymraeg yn y gweithle.
- Branwen Davies – Swyddog Cyhoeddiadau
Mae Branwen wedi gweithio yn y Brifysgol ers 10 mlynedd ac wedi cyfrannu at y Gymraeg drwy ei gwaith. Swyddog Cyhoeddiadau yw Branwen ac mae’n rhan o dîm Cyfryngau Creadigol y Brifysgol. Mae’n annog ei chyd-weithwyr di-Gymraeg i ddefnyddio’r iaith gan roi cyfieithiad a chyd-destun geiriau Cymraeg iddynt wrth gyfathrebu ar y ffôn neu mewn e-bost, yn ogystal â chyflwyno ‘Gair yr Wythnos’ yn y swyddfa sy’n esbonio ystyr a sut i ynganu geirfa.
Astudio trwy’r Gymraeg (myfyriwr)
Myfyriwr sydd wedi goresgyn rhwystrau neu sydd wedi gwneud ymdrech arbennig ac yn gwbl ymroddedig i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Stephanie Davies –Drama ac AstudiaethauTheatr
Myfyrwraig yn ei thrydedd blwyddyn yn astudio Drama ag Astudiaethau Theatr yw Steph. Yn wreiddiol o Gaerffili, hi yw unig aelod y teulu sy’n siarad Cymraeg. Fe ddysgodd hi’r Gymraeg drwy fynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, ond rhoi’r gorau iddi wrth fynychu ysgol chweched dosbarth cyfrwng Saesneg. Penderfynodd ail gydio yn ei Chymraeg a dyma’r prif reswm iddi ddewis Aberystwyth fel prifysgol, yn ogystal â’r cyfleon sydd i astudio trwy’r Gymraeg.
Pencampwr y Gymraeg (myfyriwr)
Myfyriwr sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i Gymreictod y gymuned a/neu’r Brifysgol drwy wirfoddoli yn y gymuned leol neu drwy drefnu digwyddiadau yn Gymraeg i gyd-fyfyrwyr.
- Delyn Fritter – Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Yn wreiddiol o gartref ddwyieithog ym Mhontypŵl, mae Delyn yn fyfyrwraig ail flwyddyn Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Fe benderfynodd hi ddod i’r Brifysgol yn Aberystwyth oherwydd y Gymraeg a’r dewis sydd i astudio ei phwnc yn y Gymraeg. Mae’r amryw gyfleoedd mae wedi ymgymryd â hwy yn y Gymraeg wedi arwain at ei hethol yn Swyddog Materion Cymraeg Pwyllgor Cymdeithas Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Ymdrecha hi’n wythnosol i gynnig sesiynau Cymraeg i aelodau di-Gymraeg y gymdeithas.