Gwobrau 2017
Am y tro cyntaf yn 2017 dathlwyd Gŵyl Dewi ym Mhrifysgol Abeystwyth gyda seremoni wobrwyo yn yr Hen Goleg i gydnabod cyfraniad eithriadol aelodau o staff a myfyrwyr i’r Gymraeg yn y Brifysgol.
Y gŵr gwadd oedd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Materion Cyhoeddus FA Wales a meistres y seremoni oedd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones. Diddanwyd y gynulleidfa gan Gôr Aelwyd Pantycelyn, Côr CYD, y delynores Eleri Turner a Gwawn (sef Iestyn Tyne ac Alun Williams).
Yr Enillwyr
Derbyniodd pob enillydd dystysgrif ac englyn wedi’i chyfansoddi yn benodol ar eu cyfer hwy gan y prifardd Eirug Salisbury.
Gwobr Dysgwr Rhagorol (staff)
Aelod o staff sydd wedi dysgu’r Gymraeg a sy’n gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio’r iaith wrth ei gwaith bob dydd. –
- Faaeza Jasdanwalla-Williams - Adran Hanes a Gwasanaethau Gwybodaeth
Gwobr Pencampwr y Gymraeg (staff)
Aelod o staff sydd wedi bod yn neilltuol o gefnogol i’r Gymraeg yn y gweithle.
- Mair Daker - Gwasanaethau Gwybodaeth - Llyfrgell Thomas-Parry
Gwobr Astudio trwy’r Gymraeg (myfyriwr)
Myfyriwr sydd wedi goresgyn rhwystrau neu sydd wedi gwneud ymdrech arbennig ac yn gwbl ymroddedig i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Owen Lloyd Howell - Cymraeg a Daearyddiaeth
Gwobr Pencampwr y Gymraeg (myfyriwr)
Myfyriwr sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i Gymreictod y gymuned a/neu’r Brifysgol drwy wirfoddoli yn y gymuned leol neu drwy drefnu digwyddiadau yn Gymraeg i gyd-fyfyrwyr.
- Jeff Smith - Yr Adran Ffiseg
Cyflwynwyd tair gwobr ychwanegol am gyfraniad eithriadol yn ystod y seremoni hefyd sef
Gwobr Cyfraniad Oes
- Felicity Roberts - Cymraeg i Oedolion a'r Adran Gymraeg
- Jaci Taylor - Cymraeg i Oedolion
Gwobr Cyfraniad Arbennig i’r Gymraeg
- Jamie Holder - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cliciwch yma i weld sioe sleidiau o’r seremoni