Cyfieithu Gwefannau a Thudalennau Gwe
Er mwyn hwyluso’r gwaith o gyfieithu gwefannau a thudalennau gwe gofynnir ichi gynnwys y canlynol wrth anfon y gwaith i’r Ganolfan:
Ar gyfer gwefan gyfan
- Nifer y geiriau fesul tudalen
- Ffeil Word ar gyfer pob tudalen gan gynnwys y lluniau perthnasol a chyfeiriad URL y tudalen
- Rhestr o'r testunau amgen ar gyfer ffeiliau ffotograffau a delweddau
Gallwch anfon y cyfeiriad URL yn unig ar gyfer cyfieithu tudalen unigol.
Diweddaru gwefan
Bydd y Ganolfan wedi pennu pa dudalennau a ddylai fod yn ddwyieithog ar eich gwefan adrannol a chofiwch fod angen diweddaru’r testun Cymraeg hefyd pan fyddwch yn diweddaru’r ochr Saesneg. Gallwch anfon y gwaith hwn i’w gyfieithu (gallai fod yn ychydig o eiriau, brawddeg/au neu baragraffau). Wrth anfon y gwaith i’w ddiweddaru neu ei ddiwygio sicrhewch fod y newidiadau wedi’u marcio’n amlwg.
Cefnogaeth
Gall y Ganolfan gynnig cefnogaeth i wefeistri adrannol wrth gynllunio a gosod gwefannau dwyieithog. Cysylltwch â Lowri Angharad Jones am gyngor pellach.