Polisïau a Strategaethau’r Iaith Gymraeg
Is-gynllun y Gymraeg a’i Diwylliant 2019-2023
Mae Is-gynllun y Gymraeg a'i Diwylliant 2019-2023 yn dwyn ynghyd amcanion pedair dogfen strategol, sef Safonau’r Iaith Gymraeg, y Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg, Cynllun Cyfannol Strategol y Gymraeg a’r Strategaeth Sgiliau Dwyieithog, er mwyn cyflwyno cynllun cyfansawdd a fydd yn galluogi’r Brifysgol i gyflawni ei chenhadaeth ddwyieithog. Pwrpas yr is-gynllun hwn yw amlygu’r prif weithgareddau sy’n gwneud Prifysgol Aberystwyth yn sefydliad dwyieithog uchelgeisiol sy’n galluogi ac yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg.
Polisi Defnydd Mewnol o’r Gymraeg
Diben y Polisi Defnydd Mewnol o'r Gymraeg yw adeiladu ar draddodiad clodwiw y Brifysgol o gefnogi dwyieithrwydd yn y gweithle, a’r ymrwymiadau hyn yn y Cynllun Strategol, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod yn cydymffurfio â gofynion y Safonau Iaith Gymraeg a ddaeth i rym ar y 1af o fis Ebrill 2018.
Dyfarnu Grantiau a Chymorth Ariannol - Polisi a Gweithdrefn ar gyfer ystyried y Gymraeg
Yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg (Safon 100) mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo polisi a gweithdrefn newydd (Dyfarnu Grantiau a Chymorth Ariannol - Polisi a Gweithdrefn ar gyfer ystyried y Gymraeg) er mwyn asesu effaith grantiau a chymorth ariannol ar y Gymraeg. Disgwylir i Adrannau sy’n gyfrifol am ddyfarnu grantiau neu gymorth ariannol gwblhau asesiad ardrawiad effaith ar y Gymraeg mewn ymgynghoriad â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Bydd yr asesiadau hyn yn gyfle i adnabod cyfleoedd o fewn cynlluniau grantiau/cymorth ariannol i sicrhau cydraddoldeb i’r Gymraeg ac i gynyddu effeithiau positif i’r Gymraeg.