Polisïau
O dan Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 mae dyletswydd statudol ar Brifysgol Aberystwyth i gydymffurfio ag 11 o Safonau Llunio Polisi sy’n ymwneud â llunio neu adolygu polisi, yn ogystal ag ymgynghori ar bolisi. Mae’r Safonau hyn wedi’u gosod er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei hystyried cyn bod penderfyniadau polisi yn cael eu gweithredu. Cyfeirir yn benodol at gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac at beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Beth yw gofynion y Safonau?
Polisïau
Wrth lunio, adolygu neu addasu polisi, rhaid ystyried pa effeithiau, os o gwbl (rhai cadarnhaol neu andwyol), y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar —
(a) cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a
(b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Ar ben hynny, rhaid ystyried a oes modd diwygio’r polisi i gynyddu’r effeithiau cadarnhaol (neu i leihau unrhyw effeithiau negyddol) ar y Gymraeg.
Dogfen ymgynghori / Comisiynu ymchwil
Wrth gyhoeddi dogfen ymgynghori neu gomisiynu ymchwil sy’n ymwneud â phenderfyniad polisi, rhaid i chi geisio barn am yr effaith (gadarnhaol neu negyddol) y byddai’r penderfyniad yn eu cael o ran —
(a) cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg, a
(b) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Sut mae cwblhau Asesiad Ardrawiad Effaith ar y Gymraeg?
Mae’r ffurflen Asesiad Effaith ar y Gymraeg ar gael ar wefan Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg. Unwaith i chi gwblhau’r ffurflen, dylid ei gynnwys gydag eich papurau i’r Weithrediaeth neu Bwyllgorau. Cofiwch gysylltu â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg canolfangymraeg@aber.ac.uk os am gyngor pan fyddwch yn datblygu/diweddaru polisi/cynllun/cynnig. Gall Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg gynnal asesiad ar y cyd, cysylltwch i drefnu cyfarfod.
A oes angen i mi gwblhau Asesiad Ardrawiad Effaith ar y Gymraeg?
Mae angen i’r Brifysgol ystyried effaith ar y Gymraeg wrth wneud ‘penderfyniadau polisi’ o fewn y meysydd a restrir isod.
Dyma siart lif byr i’ch cynorthwyo i adnabod os oes angen cynnal asesiad ardrawiad effaith ar y Gymraeg.
Ydy’r gofynion hyn yn berthnasol i bob penderfyniad polisi gan y Brifysgol?
Mae Safonau’r Gymraeg yn diffinio penderfyniadau polisi (mewn prifysgol) fel penderfyniad sy’n ymwneud â
- derbyn a dethol myfyrwyr;
- gwybodaeth a ddarperir i fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr am y corff;
- lles myfyrwyr;
- cwynion;
- achosion disgyblu mewn cysylltiad â myfyriwr;
- gwasanaeth gyrfaoedd;
- mewnrwyd i fyfyrwyr, gwefannau rhith-ddysgu a gwefannau porth dysgu;
- seremonïau graddio a gwobrwyo;
- asesu neu arholi myfyriwr;
- dyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol;
- darlithoedd cyhoeddus;
- cyfleoedd dysgu;
- cyrsiau;
- arwyddion ar adeiladau’r corff;
- llety myfyrwyr, llyfrgelloedd a chanolfannau celfyddydau;
- dyrannu tiwtor personol;
- galwadau i brif rif (neu rifau) ffôn, rhifau llinell gymorth, rhifau canolfan alwadau a systemau ffôn wedi eu hawtomeiddio;
ac mae’n cynnwys, ymysg pethau eraill (ac fel y bo’n briodol i’r corff), penderfyniadau ynghylch
- cynnwys deddfwriaeth;
- arfer pwerau statudol;
- cynnwys datganiadau polisi;
- strategaethau neu gynlluniau strategol;
- strwythurau mewnol;
- lleoliadau swyddfeydd ac adeiladau;
- recriwtio neu ddefnyddio gwirfoddolwyr.
Wrth ddatblygu neu ddiwygio polisi/cynnig y bydd angen ei gymeradwyo ar lefel y Weithrediaeth neu bwyllgor, rhaid nodi’r effaith ar y Gymraeg (gweler uchod) yn y ffurflen ardrawiad effaith.
Beth am newidiadau i ddarpariaeth academaidd?
Yn unol â gofynion Safon 104, pan fyddwch yn datblygu, addasu neu yn dileu cwrs neu unrhyw elfen o gwrs, rhaid i chi ystyried pa effeithiau (os o gwbl) y byddai’r cwrs hwnnw, neu ddileu’r cwrs hwnnw, yn eu cael o ran
- cyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg
- P’un a yw’r effaith yn un andwyol ynteu gadarnhaol?
- P’un a fyddai’r cwrs (neu ddileu’r cwrs) yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
- Oes modd addasu’r cynnig i sicrhau effeithiau cadarnhaol, neu fwy cadarnhaol ar y Gymraeg?
- Oes modd addasu’r cynnig er mwyn lleihau effeithiau negyddol ar y Gymraeg
Mae’r Brifysgol (trwy’r Cyngor, Senedd, Bwrdd Academaidd a’r Grŵp Cynllunio Portffolio) yn ei gwneud yn ofynnol i bob cais i ddatblygu neu addasu cwrs ystyried yr effaith ar yr iaith Gymraeg. Mae gan y Brifysgol drefniadau cadarn er mwyn ystyried effeithiau unrhyw newidiadau i ddarpariaeth academaidd ar y Gymraeg. Mae’r Pwyllgor Astudiaethau Cyfrwng Cymraeg yn gyfrifol am ddatblygiad strategol y ddarpariaeth ddysgu cyfrwng Cymraeg ac yn adrodd i’r Bwrdd Academaidd ar faterion academaidd cyfrwng Cymraeg. Ceir gwybodaeth ynglŷn â’r trefniadau hyn yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
Beth a olygir gan “benderfyniadau polisi”?
Mae Safonau’r Gymraeg yn nodi mai ystyr 'penderfyniad polisi' yw penderfyniad gan gorff ynglŷn ag arfer ei swyddogaethau neu ynglŷn â chynnal ei fusnes yn y meysydd a nodir uchod ar dudalen 1 a 2.
Mae’n ddiffiniad hynod o eang, ac nid yw wedi ei gyfyngu i ddogfennau ysgrifenedig a elwir yn “bolisïau” yn unig.
Mae Comisiynydd y Gymraeg (CYG) o'r farn bod ‘polisi’ yn ymwneud yn fras â datganiad / dogfen ffurfiol ysgrifenedig sy'n ymdrin â nodau, cyfeiriad, syniadau, cynllun neu ganllaw ar sut y bydd corff yn gweithredu mewn sefyllfa benodol.
Mae CYG o'r farn bod 'arfer' (yn hytrach na phenderfyniad polisi) yn ymwneud yn fras â phenderfyniadau gweithredol corff sy'n llywodraethu ei weithredoedd o ddydd i ddydd, ac yn cael eu gwneud o fewn terfynau neu ganiatâd penderfyniadau polisi. Mae penderfyniadau gweithredol yn rhoi penderfyniadau polisi ar waith.
Mae enghreifftiau o ‘benderfyniadau polisi’ (ar lefel y Weithrediaeth / Pwyllgorau) fydd angen ystyried yr effaith ar y Gymraeg yn debygol o gynnwys
- Cynigion i ailstrwythuro (staff).
- Newidiadau o ran cyflenwi gwasanaethau i staff/myfyrwyr/y cyhoedd.
- Cyflwyno systemau newydd / contractau trydydd parti (yn y meysydd a rhestrir uchod ar dudalen 1 a 2)
- Unrhyw bolisi, strategaeth, neu Gynllun newydd gan y Brifysgol.
- Newidiadau arfaethedig o ran asesiadau, llety, derbyn myfyrwyr.
Beth a olygir gan “Gyfleoedd i Ddefnyddio’r Gymraeg”?
Diffinnir hyn fel cyfleoedd i:
- dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg
- defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
- siarad Cymraeg yn gymdeithasol neu yn y gymuned
- derbyn addysg cyfrwng Cymraeg
Beth a olygir gan “Peidio â Thrin y Gymraeg yn Llai Ffafriol”?
Ni ddylai person sy’n dymuno defnyddio’r Gymraeg fod o dan anfantais a ni ddylid rhoi’r argraff mai’r Saesneg yw’r iaith ddiofyn yng nghyd-destun y canlynol:
- gwedd a golwg
- hygyrchedd
- cywirdeb
- anghyfleustra
- cost
- oedi
- iaith ddiofyn
Beth a olygir gan “effeithiau cadarnhaol” ar y Gymraeg?
Dyma rai enghreifftiau o gwestiynau perthnasol y gellid eu hystyried wrth bwyso a mesur pa effeithiau cadarnhaol neu andwyol y byddai’r penderfyniad polisi yn eu cael ar y Gymraeg. Enghreifftiau cyffredinol gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yw’r rhain.
Dylai asesiadau ystyried effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol. Cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg i gael cyngor ynglŷn â chwblhau’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg.
Effeithiau Cadarnhaol |
Effeithiau Andwyol |
A fyddai’r penderfyniad polisi yn debygol o wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy?
|
A oes perygl y byddai’r penderfyniad polisi yn cam wahaniaethu yn erbyn defnyddwyr y Gymraeg?
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn cynnig camau fydd yn debygol o ddiogelu’r Gymraeg mewn ardal benodol?
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn golygu lleihad yn nifer y swyddi lle mae gofyn am sgiliau Cymraeg?
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn golygu cynnydd yn nifer y swyddi lle mae gofyn am sgiliau Cymraeg?
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn arwain at gau gwasanaethau Cymraeg penodol neu yn peryglu’r gwasanaethau hynny?
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn arwain at gynnydd mewn gwasanaethau Cymraeg penodol neu yn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r gwasanaethau hynny?
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn ei gwneud yn anoddach i recriwtio siaradwyr Cymraeg?
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn annog / ei gwneud yn haws i recriwtio siaradwyr Cymraeg?
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn arwain at ostyngiad yn nifer yr unigolion sy’n dysgu’r iaith?
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn cynnig gwasanaeth Cymraeg yn rhagweithiol i ddefnyddwyr?
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn cyfyngu ar hygyrchedd a mynediad at y gwasanaethau Cymraeg?
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn arwain at gynnydd yn nifer yr unigolion sy’n dysgu’r iaith?
|
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn cymryd camau i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg?
|
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn cyfrannu at strategaethau cenedlaethol, a meysydd polisi penodol (e.e. Strategaeth Cymraeg 2050), sy’n ymwneud â’r Gymraeg?
|
|
A fyddai’r penderfyniad polisi yn cyfrannu at sicrhau parhad a ffyniant y Gymraeg fel iaith teulu, cymuned, neu’r gweithle?
|
|
Ystyried camau i gynyddu’r effeithiau cadarnhaol (neu liniaru’r effeithiau negyddol) ar y Gymraeg
Yn ogystal ag ystyried yr effeithiau (cadarnhaol, niwtral, andwyol) rhaid ystyried os oes modd diwygio’r polisi i gynyddu’r effeithiau cadarnhaol ar y Gymraeg. Gellir ystyried y camau hyn yng nghyd-destun yr enghreifftiau uchod o ‘effeithiau cadarnhaol’. Cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg canolfangymraeg@aber.ac.uk i gael cyngor pellach.
Nid oes gan y Polisi / Strategaeth / Cynllun elfen sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Oes angen i mi gwblhau Asesiad Ardrawiad Effaith?
Dylid cwblhau asesiad ardrawiad effaith ar bob penderfyniad polisi (polisi / strategaeth / cynnig) os ydynt yn ymwneud â’r meysydd a restrir uchod (tudalen 1 a 2). Os nad oes gan eich polisi / cynnig / strategaeth effaith uniongyrchol amlwg ar y Gymraeg, ni ddylai’r asesiad gymryd llawer o amser i’w gwblhau. Gall fod yn ddefnyddiol i feddwl am unrhyw elfennau sy’n ymwneud â gofynion Safonau’r Gymraeg. Er enghraifft, fyddwch chi’n cyhoeddi dogfennau/ ffurflenni, yn gohebu, yn arddangos arwyddion, neu’n cynnig gwasanaeth ffôn? Gall Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg canolfangymraeg@aber.ac.uk gynghori.
Dogfennau Ymgynghori – Ystyried yr effaith ar y Gymraeg
Cyn gwneud penderfyniad polisi bydd y Brifysgol weithiau yn cyhoeddi dogfen ymgynghori. Wrth gyhoeddi dogfen o’r fath dylid sicrhau ei bod yn cynnwys cwestiwn/cwestiynau am yr effaith ar y Gymraeg. Gweler yr enghraifft isod.
Yn dilyn penderfyniad Tribiwnlys y Gymraeg (Cyngor Nedd a Phort Talbot v Comisiynydd y Gymraeg) dylai sefydliadau gynnwys copi o’u hasesiad effaith wrth ymgynghori ar benderfyniadau polisi.
Yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg, fel rhan o unrhyw broses ymgynghori, byddwn yn gofyn am eich barn am effaith y polisi/cynnig dan sylw ar
|
In accordance with the Welsh Language Standards, as part of any consultation process, we will seek views on whether the policy/proposal will have any effect on a) opportunities for persons to use the Welsh language, and b) treating the Welsh language no less favourably than the English language. In your view, what effect will the policy/proposal have on the Welsh Language? Please also state how you think the policy/proposal could be formulated or revised to that |