Atebion e-bost awtomatig

Mynd ar wyliau? Yn absennol o'r swyddfa? Dyma enghreifftiau y gallwch eu copio a'u gludo cyn eu haddasu ar gyfer eich anghenion chi.

Cofiwch

  • Dylai pob ateb e-bost awtomatig fod yn ddwyieithog.

  • Dylai’r Gymraeg ymddangos uwchben y Saesneg, neu i’r chwith iddi.

  • Er mwyn gwahaniaethu’n glir rhwng y ddwy iaith, gallwch ddefnyddio ffont normal i un ac italig i’r llall. Fel arall, dylai’r ddwy iaith fod yn gyfartal o ran ffurf, maint, eglurder ac amlygrwydd.

  • Ceir enghreifftiau o atebion awtomatig isod. Os ydych am fersiwn penodol, gwnewch gais am gyfieithu trwy fewngofnodi i https://myadmin.aber.ac.uk/, clicio ar Cyfieithu ac yna’r botwm glas ‘Creu Cais am Gyfieithiad’.

Enghreifftiau o atebion awtomatig

  • Ni fyddaf yn y swyddfa tan [01/01/2023].

    I shall be away from the office until [01/01/2023].

  • Byddaf ar wyliau tan [01/01/2023].

    I’m on holiday until [01/01/2023].

  • Nid wyf yn y gwaith ar hyn o bryd.

    I am not at work at present.

  • Rwyf i ffwrdd o’r gwaith yn sâl ar hyn o bryd.

    I’m away from work due to illness at the moment.

  • Oherwydd salwch, nid wyf yn y gwaith heddiw.

    Due to illness, I am not at work today.

  • Oherwydd rhesymau personol, nid wyf yn y gwaith heddiw.

    Due to personal reasons, I am not at work today.

  • Rwyf ar gyfnod mamolaeth tan [01/01/2023].

    I am on maternity leave until [01/01/2023].

  • Rwyf ar gyfnod tadolaeth tan [01/01/2023].

    I am on paternity leave until [01/01/2023].

  • Yn ystod f’absenoldeb, a wnewch chi gysylltu â [Enw].

    Please contact, [Name], during my absence.

  • Fe wnaf ymdrin â phob ymholiad ar ôl imi ddychwelyd i’r gwaith.

    I shall deal with all queries upon my return.