Gwefannau
Canllawiau i Staff: Gwefannau (Safonau'r Gymraeg)
- Rhaid cyhoeddi pob tudalen we a gwasanaeth ar-lein yn Gymraeg.
- Rhaid i dudalennau gwe fod yn gwbl weithredol.
- Dylid cyhoeddi / diweddaru yn y Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd.
- Dylai'r Gymraeg / Saesneg gynnwys yr un wybodaeth ac ni ddylai fod unrhyw oedi rhwng diweddaru’r fersiynau Cymraeg a Saesneg o'r wefan.
- Rhaid i bob tudalen we gynnwys dolen 'Cymraeg' / 'English' sy’n arwain at y dudalen gyfatebol yn Gymraeg neu Saesneg. Ni ddylai'r ddolen 'Cymraeg' / 'English' ddychwelyd i'r hafan nac i dudalen we wahanol.
- Ni ddylid trin y tudalennau gwe Cymraeg yn llai ffafriol o ran fformatio, dyluniad, ymddangosiad, na'r testun a gaiff ei gynnwys.
- Rhaid i hyperddolenni sydd ar dudalennau gwe Cymraeg arwain at y fersiwn Gymraeg o’r dudalen/wefan honno. Ar dudalennau gwe Cymraeg, dylai’r hyperddolenni arwain at fersiwn Gymraeg y wefan allanol os yw’r wefan honno ar gael yn Gymraeg.
- Ar y dudalen we Gymraeg, rhaid i ddolenni ar gyfer lawrlwytho dogfennau arwain at fersiwn Gymraeg y ddogfen/ffurflen honno. Mae'r rhan fwyaf o ddogfennau/ffurflenni a gyhoeddir gan y Brifysgol ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ond os nad yw'r ddogfen ar gael yn Gymraeg (e.e. adroddiadau allanol / cyhoeddiadau ymchwil / papurau academaidd) dylid cynnwys dolen i'r fersiwn Saesneg o'r ddogfen ar y dudalen Gymraeg hefyd.
Cwestiynau Cyffredin
A oes rhaid i mi drefnu cyfieithu deunydd dysgu neu gyhoeddiadau ymchwil ar gyfer y wefan?
Nac oes. Nid yw Safonau’r Gymraeg yn berthnasol i ddeunydd dysgu neu i gyhoeddiadau ymchwil.
Mae angen i mi gynnwys dolen i ddogfen allanol ar y wefan ac nid yw’r ddogfen honno ar gael yn Gymraeg. A ddylwn i hepgor y ddogfen o’r dudalen Gymraeg?
Na. Dylech gynnwys ddolen ar yr ochr Gymraeg hefyd gan nodi fod y ddogfen yn un allanol.
Rwyf wedi anfon cais i gyfieithu tudalen gwe. Ydy’n iawn i mi gyhoeddi’r dudalen a nodi fod y dudalen Cymraeg yn cael ei gyfieithu?
Na. Rhaid cyhoeddi a diweddaru’r tudalennau'r un pryd. Os oes eich cais cyfieithu yn un brys, cysylltwch â’r tîm cyfieithu i drafod cyfieithu@aber.ac.uk
Mae gennym dudalen rhyngweithiol lle mae modd i fyfyrwyr a’r cyhoedd i gyfrannu. Oes angen i mi gyfieithu testun allanol?
Os yw’r testun wedi ei gyhoeddi gan gyfranwyr allanol neu fyfyrwyr, nid yw’n ofynnol i’w gyhoeddi’n ddwyieithog (oni bai fod y Brifysgol yn ail eirio neu’n crynhoi’r sylwadau). Er enghraifft caiff sylwadau myfyrwyr ar y tudalennau ‘Rho Wybod Nawr’ eu cyhoeddi yn yr iaith wreiddiol (unai yn Saesneg neu’n Gymraeg) ond bydd ymateb y Brifysgol yn ddwyieithog.
I gael rhagor o wybodaeth am ofynion Safonau’r Gymraeg ar gyfer dogfennau, cysylltwch â canolfangymraeg@aber.ac.uk