Defnyddio’r Gymraeg yn effeithiol mewn Cyfarfodydd Dwyieithog
Mae Safonau’r Gymraeg yn rhoi hawl i’r cyhoedd, myfyrwyr a staff i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyfarfodydd. Weithiau bydd modd cynnal y cyfarfodydd hyn yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg ond dro arall bydd angen i’r cyfarfod fod yn ddwyieithog. Mae’r arweiniad hwn yn berthnasol i gyfarfodydd pan fydd angen defnyddio cyfieithydd ar y pryd er mwyn gallu gweithredu’r hawl i ddefnyddio’r Gymraeg.
Pwyllgorau’r Brifysgol
Mae rhestr o bwyllgorau’r Brifysgol sydd yn gweithredu’n ddwyieithog i’w gweld yn y ddogfen Defnyddio’r Gymraeg yn y Gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth, ond rhaid i bwyllgorau eraill hefyd gael eu cynnal yn ddwyieithog os yw’r aelodau yn dymuno hynny.
Trefnu Cyfieithydd ar y Pryd
Dylid cysylltu â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg – cyfieithu@aber.ac.uk er mwyn trefnu cyfieithydd ar y pryd o leiaf bythefnos o flaen llaw. Gweler manylion o ran trefnu gwasanaethau cyfieithu ar y pryd gan gynnwys mewn cyfarfodydd ar-lein.
Papurau’r Cyfarfod
Dylid anfon yr agenda ac unrhyw bapurau a chyflwyniadau PowerPoint at y cyfieithydd ar y pryd rai dyddiau (o leiaf 24awr) o flaen llaw fel bod cyfle iddo/i ymgyfarwyddo â’r materion sy’n debygol o godi yn y cyfarfod. Os yw’r ddogfennaeth ar gael yn ddwyieithog, anfonwch y ddau fersiwn at y cyfieithydd os gwelwch yn dda.
Cyn y Cyfarfod
Dylai’r cadeirydd neu un o’r swyddogion eraill anelu at gyrraedd ychydig yn gynnar i’r cyfarfod er mwyn cynghori’r cyfieithydd ar y lle gorau i osod ei offer cyfieithu fel y bydd yn gallu gweld a chlywed pawb ond na fydd mewn man a fyddai yn ymyrryd ar y cyfarfod.
Rôl y Cadeirydd
Mae gan y Cadeirydd ran allweddol i’w chwarae i hybu’r defnydd o’r Gymraeg, a normaleiddio’r arfer o gynnal cyfarfodydd dwyieithog. Y nod wrth gadeirio cyfarfod dwyieithog yw annog pawb i ddefnyddio’i ddewis iaith a’i gwneud yn gwbl naturiol a rhwydd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd amrywiol a newydd. Cyfrifoldeb y cadeirydd yw sefydlu awyrgylch dwyieithog y cyfarfod a chreu amodau a fydd yn gwrthweithio’r duedd i droi i’r Saesneg. Gall cadeirydd, trwy ei agwedd, ddangos mai’r peth naturiol i bob siaradwr Cymraeg yw siarad yn y Gymraeg ac nad yw’n anghwrtais siarad Cymraeg ym mhresenoldeb pobl uniaith Saesneg.
Cadeiryddion sy’n medru’r Gymraeg
Pan fydd Cadeirydd dwyieithog yn cynnal cyfarfod, yn ddelfrydol dylai gadeirio’r cyfarfod yn Gymraeg. Mae hynny’n hwb i’r iaith oherwydd mae’n normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg a’r gwasanaeth cyfieithu o’r cychwyn cyntaf, ac mae’n sefydlu statws y Gymraeg mewn cyfarfodydd gan roi arwydd cadarnhaol ac anogaeth i’r cyfranwyr siarad Cymraeg. Mae ‘Cadeirio yn Gymraeg’ yn golygu llywio’r drafodaeth yn Gymraeg ac ymateb yn Gymraeg i’r drafodaeth hyd yn oed pan fydd y drafodaeth a’r cwestiynau yn Saesneg.
Cofiwch na fydd y di-Gymraeg o dan anfantais o gwbl, oherwydd mi wnaiff y cyfieithydd sicrhau bod pawb yn gallu cyfranogi’n llawn. Mae’r ystyriaethau hyn yn bwysig o ran cynorthwyo siaradwyr Cymraeg i deimlo’n gartrefol ac mae’n dangos iddynt fod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal a bod croeso iddynt siarad Cymraeg os ydynt am gyfrannu.
Wrth gadeirio cyfarfod dwyieithog dylid
- Croesawu pawb i’r cyfarfod yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Esbonio mai cyfarfod dwyieithog ydyw a bod croeso i bawb gyfrannu yn Gymraeg neu yn Saesneg.
- Cyflwyno’r cyfieithydd. Dylid sicrhau fod clustffonau gan bawb sydd angen a’u bod yn gweithio’n iawn.
- Cofio bod y Cadeirydd a phawb arall yn gallu ateb pwyntiau a sylwadau a wneir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Gymraeg. Mewn cyfarfod dwyieithog ni ddylai neb ystyried bod hyn yn anghwrtais.
- Troi iaith y cyfarfod yn ôl i’r Gymraeg os oes tueddiad i drafod yn Saesneg ar ôl i rywun gyfrannu yn Saesneg.
- Cofio y gall y Cadeirydd gadeirio yn Gymraeg yn unig os yw’n dymuno gwneud hynny. Fel rheol mae hynny’n ennyn hyder ymhlith siaradwyr Cymraeg eraill.
- Ar gyfer yr aelodau sy’n gwisgo clustffonau – os bydd disgwyl iddynt ateb cwestiwn dylid rhoi amser iddynt wisgo a thynnu eu clustffonau er mwyn gwrando a siarad.
- Sicrhau nad yw pobl yn siarad ar draws ei gilydd er mwyn hwyluso gwaith y cyfieithydd
- Cau y cyfarfod yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Cadeiryddion nad ydynt yn medru’r Gymraeg
Hyd yn oed os nad yw’r Cadeirydd yn medru siarad Cymraeg, mae ganddo/i rôl bwysig i sicrhau bod y rhai sydd yn bresennol yn y cyfarfod ac yn dymuno defnyddio’r Gymraeg yn teimlo bod croeso iddynt wneud hyn. Cofiwch na fydd y di-Gymraeg o dan anfantais o gwbl, oherwydd mi wnaiff y cyfieithydd sicrhau bod pawb yn gallu cyfranogi’n llawn.
- Os yn bosib, dylid agor y cyfarfod yn Gymraeg drwy groesawu pawb yn Gymraeg. e.e. “Prynhawn da a chroeso i chi gyd - Good afternoon and welcome”
- Dylid cyhoeddi fod y cyfarfod yn un dwyieithog a bod croeso i bawb ddefnyddio eu dewis iaith gan fod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
- Dylid cyflwyno’r cyfieithydd a sicrhau fod clustffonau gan bawb sydd angen a’u bod yn gweithio’n iawn.
- Dylid sicrhau nad yw pobl yn siarad ar draws ei gilydd er mwyn hwyluso gwaith y cyfieithydd.
- Os yn bosib, dylid cau y cyfarfod yn Gymraeg e.e. Dyna ddiwedd y cyfarfod. Diolch am ddod. – We’ll finish the meeting now. Thank you for coming.
Ymadroddion Defnyddiol
Agor cyfarfod / Opening a meeting
Bore da |
Good morning |
Bor-eh-daah |
|
Prynhawn da |
Good afternoon |
P-noun daah |
|
Noswaith dda |
Good evening |
Nos-waeeth tha |
|
Croeso i’r cyfarfod |
Welcome to the meeting |
Kroee-so ee’r Kyv-are-vod |
|
Croeso i Brifysgol Aberystwyth |
Welcome to Aberystwyth University |
Kroee-so ee Breev-yh-skol Aber-yhst-weeth |
|
Diolch i chi am ddod |
Thank you for coming. |
Dee-olch am thod |
|
Bore da a chroeso |
Good morning and welcome |
Bor-eh-daah ah chroeso |
|
Croeso cynnes i ... |
A warm welcome to… |
Kroee-so Cun-nes ee ... |
|
Ga’ i gyflwyno… i chi |
May I introduce … to you. |
Gaa ee gyv-loo-eeno.... ee chi |
|
Eitem nesa |
Next item |
Item nes-a |
|
Beth yw eich barn |
What’s your opinion |
Beth ewe eh-ch barn |
|
Diolch am y sylw |
Thank you for the comment |
Dee-olch am yhh see-loo |
|
Diolch am y cynnig |
Thank you for the suggestion |
Dee-olch am yhh cun-eeg |
|
Dwi’n cytuno |
I agree |
Do-een cut-eeno |
|
Dwi ddim yn cytuno |
I disagree |
Do-ee thîm uhn cut-eeno |
|
Un ar y tro |
One at a time |
Een arh yh troh |
|
Cyfarfod dros Microsoft Teams
Diolch am ymuno |
Thank you for joining |
Dee-olch am ymh-eeno |
|
Diolch am ymuno gyda’r cyfarfod |
Thank you for joining the meeting today |
Dee-olch am ymheeno gyh-da yhh cyvarvod hev-eew |
|
Tro y sain ymlaen Unigolyn (ffurf anffurfiol) |
Turn your sound on Invididual (informal form) |
Tro yhh saeen umlaeen |
|
Trowch y sain ymlaen Unigolyn (ffurf ffurfiol neu lluosog) |
Turn your sound on Individual (polite form or plural) |
Tro-oo-ch yn saeen umlaeen |
|
Tro’r fideo ymlaen Unigolyn (ffurf anffurfiol) |
Turn your video Individual (informal form) |
Tro yhh video umlaeen |
|
Trowch y fideo ymlaen Unigolyn (ffurfiol neu lluosog) |
Turn your video on Individual (polite form or plural) |
Tro-oo-ch yh Video m-laeh-n |
|
Ti ar miwt Unigolyn (ffurf anffurfiol) |
You’re on mute Individual (informal form) |
Tee arh mute |
|
Mae hi ar miwt |
She is on mute |
Maee hee arh mute |
|
Mae e’ ar miwt |
He’s on mute |
Maee eh arh mute |
|
Mae nhw ar miwt |
They are on mute |
Maee nhoo arh mute |
|
Mae problem |
There is a problem |
Maee problem |
|
Cau cyfarfod / Closing a meeting
Diolch bawb |
Thankyou everyone |
Dee-olch bawb |
|
Diolch am fynychu |
Thank you for attending |
Dee-olch am vyn-ych-ee |
|
Diolch am gymryd rhan yn y cyfarfod heddiw. |
Thank you for taking part in the meeting Today. |
Dee-olch am gumreed rh-an uhn yhh cyvarvod |