Archif
Yma gallwch ddarllen am newyddion a digwyddiadau blaenorol y Ganolfan.
Diwrnod Shwmae Su'mae 15fed o Hydref
Hydref 15, 2014 fydd yr ail dro inni ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae gan ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg.
Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae yn gyfle inni atgyfnerthu a dathlu'r Gymraeg a'r ffyrdd y byddwn ni’n cyfarch ein gilydd yn Gymraeg yn ein cymunedau. Bydd hefyd yn gyfle i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi yn dysgu Cymraeg ledled Cymru.
*Digwyddiadau*
- Gwers Gymraeg Rhyngweithiol ar Radio’r Bae
- 10% i ffwrdd yn TaMed Bach, IBER Bach a Blas Padarn wrth ofyn am de neu goffi yn Gymraeg
- 10% i ffwrdd yn Gegin Pantycelyn a Blas Gogerddan wrth ofyn am bris te neu goffi yn Gymraeg
- 10% i ffwrdd yn Starbucks a The Underground wrth ofyn am eich archeb yn Gymraeg
- Cadwch lygad allan am ‘Dweud yr Enw’- help llaw i chi ynganu enwau lleoedd defnyddiol
- Cerddoriaeth a Pherfformiadau byw
- Lansio Proffiliau Dysgwyr
- Dewch i dorri Record y Byd am y nifer fwyaf o bobl yn gwneud Dawns Nantgarw tu allan i Ganolfan y Celfyddydau.
Dewch yn llu i gefnogi’r diwrnod. Os hoffech helpu ar y diwrnod cysylltwch â Gwenno ar gwe11@aber.ac.uk
Yn y cyfamser, hoffwch ein tudalen Facebook a dilynwch ni ar Trydar er mwyn darganfod 'Gair Cymraeg y Dydd' a chefnogwch ein hymgyrch ni ar Thunderclap er mwyn lledaenau'r neges am Ddiwrnod Shwmae Su' mae 2014.
Gwyliwch ein fideo am y Cynllun Iaith Gymraeg.
Y Cynllun Iaith Diwygiedig
Lansiwyd y Cynllun Iaith Gymraeg Diwygiedig ar 11 Ebril 2014 ym mhresenoldeb yr Is-Ganghellor a Llywydd y Brifysgol.
Llongyfarchiadau i Ganolfan y Celfyddydau am ennill y dystysgrif AUR wrth ymrwymo i Siarter Iaith Ceredigion.
Agorwyd Ystafell Ddysgu'r Gangen yn swyddogol gan Elin Jones AC ar 8 Mawrth am 12.30.
Gwyl Dewi Sant 2013 Mawrth 1 - 8
Ymunwch yn y dathlu - cliciwch Gwyl Dewi Sant 2013 am fanylion.
Lansiwyd Cangen Aberystwyth o'r Coleg Cymraeg ar 19 Mawrth 2012.
Cliciwch yma i weld gwefan y Gangen.
Cliciwch yma i wylio fideo o'r lansiad
Darllenwch gylchlythyr y Gangen.
Cefnogaeth ieithyddol i fyfyrwyr.
Sesiynau gloywi iaith am ddim yn dechrau cyn bo hir. Cliciwch yma am fanylion.
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal cyfres o weithdai Datblygu Staff i bawb yn y sector addysg uwch sy'n dymuno derbyn hyfforddiant sgiliau proffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mwy o wybodaeth am raglen 20011-12 Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Enwebwyd Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg am wobr Arweinyddiaeth a Rheolaeth Addysg Uwch 2010 y Times Higher Education a chyrhaeddodd y rhestr fer yn y dosbarth Tîm Cofrestrfa Neilltuol.
App newydd i gynorthwyo pobl i ddysgu Cymraeg. Ar gael i'r iPhone, iPod touch a'r iPad. I gael gwybod mwy ewch i www.cwrsmynediad.com
Siarter Iaith Ceredigion
Llongyfarchiadau i'r Ganolfan Chwaraeon am fod yr adran gyntaf yn y Brifysgol i ymrwymo i Siarter Iaith Ceredigion.
Newydd Clwb Coffi
Beth am ddefnyddio mwy o'ch Cymraeg trwy ddod i'r Clwb Coffi misol. Cynhelir y rhain ar gampws gwahanol bob mis.