Map Ffordd Hygyrchedd Technegol ar gyfer Siop Ar-lein Prifysgol Aberystwyth
Angen Gwelliannau
Mae llawer o'r gwelliannau a nodwyd y tu allan i allu'r Brifysgol i'w datrys, gan ei bod yn caffael y system gan ddarparwr trydydd parti. Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda'r darparwr trydydd parti (WPM) i geisio canfod atebion ar gyfer y canlynol:
Lliw
Ar bob tudalen, nid oes digon o gyferbyniad rhwng y lliwiau ar rannau o'r testun. Gallai hyn olygu nad oes modd i bobl â nam penodol ar eu golwg ddarllen y cynnwys hwn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG 2.1. Byddwn yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod testun yn cael ei wahaniaethu o’r cefndir, trwy sicrhau digon o gyferbyniad lliw.
Cydrannau
mae rhai cydrannau rhyngweithiol yn rhy agos at ardaloedd rhyngweithiol eraill ar rai tudalennau. Mae hyn yn golygu efallai nad ydynt yn ddigon pell ar wahân i ardaloedd rhyngweithiol eraill, er mwyn osgoi eu defnyddio trwy gamgymeriad. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.5.8 Maint Targed (Isafswm) CHCG 2.2. Byddwn yn trafod opsiynau ar gyfer symud y cydrannau rhyngweithiol gyda'n darparwr trydydd parti.
Ffurflenni
Ar y ffurflen chwilio, defnyddir deiliad lle yn hytrach na label. Gall hyn olygu nad yw'n glir i'r bobl sy'n llenwi'r ffurflen pa ddata y dylid ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.
Nid oes gan rai meysydd ffurflen labeli gweladwy ac nid ydynt yn nodi beth yw eu dibenion yn rhaglennol. Gall hyn olygu ei bod yn anoddach i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata y dylid ei gofnodi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.5 (Nodi Pwrpas Mewnbwn) CHCG 2.1. Rydym yn gweithio gyda'n darparwr trydydd parti ar ffyrdd y gallwn wneud gwelliannau i'n holl ffurflenni i sicrhau bod pob maes perthnasol yn nodi eu diben rhaglennol.
Nid yw rheolaethau ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'w hamgylchedd, fel bod pobl â nam ar eu golwg yn dal i allu eu gweld yn glir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw'n Destun) CHCG 2.1. Byddwn yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod rheolaethau ffurflen yn cael eu gwahaniaethu o’r testun o'u hamgylch, naill ai drwy sicrhau digon o gyferbyniad lliw, neu gyflwyno arddull sy’n gwahaniaethu.
Nid yw rhai botymau yn gweithio wrth ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Mae hyn yn golygu efallai na fydd pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu llenwi'r ffurflen gyda'r wybodaeth sydd ei hangen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.1.1 (Bysellfwrdd) CHCG 2.1. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r tudalennau i drwsio unrhyw fotymau sydd wedi torri.
Penawdau
Mae rhai tudalennau’n hepgor lefel pennawd neu’n cynnwys sawl elfen pennawd 1. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Byddwn yn diweddaru tudalennau gyda phenawdau priodol a gweladwy.
Mae rhai tudalennau'n defnyddio penawdau i dynnu sylw at destun nad ydyw'n bennawd mewn gwirionedd. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.
Bysellfwrdd
Mae gan rai tudalennau feysydd nad oes modd eu gweld gyda bysellfwrdd. Mae hyn yn cynnwys is-ddewislenni yn y llywio. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth yn yr is-ddewislenni ar gael i'r bobl sy'n defnyddio'r wefan gyda bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.1.1 (Bysellfwrdd) CHCG 2.1. Byddwn yn trafod dilysrwydd cyflwyno llywio bysellfwrdd ar gyfer pob elfen gyda'n darparwr trydydd parti.
Cyfarwyddnodau
Nid oes unrhyw gyfarwyddnodau wedi'u nodi o fewn y tudalennau. Golyga hyn y gall pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol gael trafferth gwneud synnwyr a llywio'r tudalennau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Byddwn yn adolygu dyluniad y safle i geisio sicrhau bod y prif gynnwys yn cael ei gynnwys mewn prif gyfarwyddnod.
Iaith
Mae testun Cymraeg a Saesneg ar gael ar yr un tudalennau. Gall hyn fod yn ddryslyd i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin gan y bydd yr holl destun yn cael ei ddarllen yn seiliedig ar yr un rheolau iaith ac ynganiad. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 3.1.1 CHCG 2.1. Iaith y Dudalen
Nid yw gwybodaeth am iaith y dudalen wedi'i diffinio. Gall hyn olygu nad yw technoleg gynorthwyol yn gallu cyflwyno'r testun yn gywir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 3.1.1 CHCG 2.1. Iaith y Dudalen Byddwn yn gweithio gyda'n darparwr trydydd parti ar opsiynau i ddiffinio iaith pob tudalen.
Dolenni
Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni cyswllt sy'n defnyddio'r un testun. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1.
Nid yw'r rhan fwyaf o'r tudalennau yn cynnwys dolenni sy'n caniatáu i ddefnyddwyr hepgor i brif gynnwys y dudalen. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol lywio'r dudalen a dod o hyd i'r prif gynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.1 (Osgoi Blociau) CHCG 2.1. Gyda’n darparwr trydydd parti, byddwn yn ystyried ffyrdd o gyflwyno dolenni sy'n caniatáu i ddefnyddwyr neidio i brif gynnwys y dudalen lle bo hynny'n briodol.
Tablau
Mae tablau yn cael eu defnyddio ar gyfer gosodiad ledled y safle. Golyga hyn ei bod hi’n ddryslyd a rhwystredig i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.
Mae rhai penawdau colofnau tabl yn wag ac nid ydynt yn cynnwys nodwedd cwmpas dilys. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol oherwydd ni fydd defnyddwyr yn gwybod at beth mae’r pennawd yn cyfeirio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.0. Rydym yn gweithio ar wneud gwelliannau i'n holl dablau, er mwyn sicrhau bod pob pennawd colofn wedi'i alinio â'r nodweddion cwmpas cywir.
Testun
Pan fydd y porwr wedi chwyddo tu hwnt i 200%, nid yw’r testun yn ail-lifo. Golyga hyn y bydd yn rhaid i bobl sydd angen ehangu’r testun sgrolio o’r chwith i’r dde i’w ddarllen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.10 (Ail-lifo) CHCG 2.1. Gyda’n darparwr trydydd parti, byddwn yn adolygu dyluniad y safle i sicrhau nad yw testun yn guddiedig neu'n rhannol guddiedig wrth gynyddu maint y ffont.
Gwelliannau Hygyrchedd Diweddar a Wnaed
Delweddau
Nid oes testun amgen defnyddiol ar gyfer rhai delweddau. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael (neu ei bod yn ddryslyd) i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1. Mae delweddau ar y safle bellach yn cynnwys testun amgen.