Datganiad Hygyrchedd LinkedIn Learning

Caiff LinkedIn Learning ei ddarparu gan LinkedIn (cwmni Microsoft) ar ran Prifysgol Aberystwyth.  Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r gwasanaeth hwn ac rydym yn ymroddedig i sicrhau hygyrchedd digidol i bobl ag anableddau. Er enghraifft, golyga hyn y dylech allu:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • Chwyddo testun hyd at 300% heb iddo oferu dros y sgrin
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • Neidio i’r prif gynnwys trwy ddefnyddio tab ar eich bysellfwrdd
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd

Mae gan AbilityNet gyngor ar gyfer gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Mesurau i gynorthwyo hygyrchedd

Rydym yn defnyddio’r mesurau canlynol i sicrhau hygyrchedd gwefan Prifysgol Aberystwyth:

  • Sicrhau bod cynnwys y Llyfrgell (drwy ddarparwyr trydydd parti) yn hygyrch ac yn bodloni anghenion ein holl fyfyrwyr
  • Sicrhau ein bod yn cadw at ddeddfwriaeth gyfredol a gofynion hygyrchedd

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?

Mae Datganiad Cydymffurfiad Hygyrchedd Microsoft ar gyfer LinkedIn Learning wedi nodi’r llwyfan fel un sy’n llwyr gefnogi safonau hygyrchedd WCAG. 2.1 AA pan fo’n berthnasol

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ynglŷn â’r wefan

Os ydych chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt yn cael eu nodi yn natganiad cydymffurfiad hygyrchedd Microsoft neu’n meddwl nad yw’r safle’n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: gg@aber.ac.uk gyda’r materion penodol yr ydych yn eu profi, a byddwn yn ymateb i’ch adroddiad.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ym mis Mai 2021 gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ym mis Mai 2021. Cafodd y Datganiad cydymffurfiad hygyrchedd ei baratoi gan Microsoft.