Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu Prifysgol Aberystwyth

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i bob un o dudalennau blackboard.aber.ac.uk.

Cynnyrch masnachol yw Blackboard, sydd wedi ei gynllunio a'i ddatblygu'n unol â Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.0. Mae manylion ynghylch hygyrchedd rhyngwyneb y defnyddiwr ar gael ar wefan Blackboard.

Rydym ni'n awyddus i’r gwasanaeth hwn fod ar gael i gymaint â phosibl o ddefnyddwyr. Mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • symud drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • symud drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gyda darllenydd sgrîn
  • dewis arddull cyferbynnedd uchel
  • cwympo dewislen y cwrs er mwyn tacluso'r dudalen a'ch helpu i ganolbwyntio ar y dasg sydd ar y gweill.

I gael mwy o fanylion, gweler ein datganiad hygyrchedd technegol.

Mae Blackboard yn argymell defnyddio JAWS wrth agor Blackboard gyda Firefox, neu ddefnyddio VoiceOver ar Safari os ydych yn defnyddio Mac. Mae mwy o wybodaeth ar gael am ddarllenwyr sgrin a Blackboard.

Pa mor hygyrch yw'r system hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o Blackboard yn gwbl hygyrch:

  • nid yw meddalwedd darllen sgrîn yn gweithio'n llwyr gyda'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn
  • nid oes capsiynau ar y rhan fwyaf o recordiadau Panopto o ddarlithoedd
  • rhai dewislenni cwrs sydd wedi eu haddasu i gynnwys cefndiroedd patrwm gwead [textured] neu gyferbynnedd lliw sâl
  • rhywfaint o'r testun sydd wedi ei greu gyda'r golygydd cynnwys
  • rhai delweddau sydd wedi eu huwchlwytho heb destun amgen
  • rhai dogfennau sydd wedi eu huwchlwytho i'r rhith-amgylchedd dysgu nad ydynt yn hygyrch

I gael mwy o fanylion, gweler ein datganiad hygyrchedd technegol.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych chi angen gwybodaeth am Blackboard mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, gwybodaeth hawdd i'w darllen, recordiad sain neu mewn braille, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Gall defnyddwyr Blackboard:

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Os dewch o hyd i broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y tudalennau hyn neu os ydych yn meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Y drefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).