Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Siop Ar-lein Prifysgol Aberystwyth

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i bob gwe-dudalen â chyfeiriad gwe sy'n cychwyn â shop@aber.ac.uk

⁠Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Mae arnom eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, golyga hynny y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais;
  • symud drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd;
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gyda darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym ni hefyd wedi sicrhau bod y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae cyngor gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • mae rhai tudalennau'n hepgor lefel pennawd
  • nid yw rhai meysydd yn nodi eu pwrpas yn rhaglennol, er mwyn caniatáu i borwyr helpu defnyddwyr i lenwi ffurflenni gyda gwybodaeth hysbys
  • nid yw rhai botymau’n gweithio wrth ddefnyddio darllenwyr sgrin
  • nid oes gan rywfaint o’r testun ddigon o gyferbyniad â'r lliw cefndirol
  • nid yw rheolaethau ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'w hamgylchedd
  • ni all defnyddwyr neidio i brif gynnwys y dudalen
  • nid yw cyfarwyddnodau’n nodi prif gynnwys y dudalen
  • mae rhai tudalennau’n cynnwys testun cyswllt sy'n ailadroddus neu'n anghyfeillgar
  • mae rhai cydrannau rhyngweithiol yn rhy agos at ardaloedd rhyngweithiol eraill
  • nid yw tudalennau'n ail-lifo nac yn newid maint yn seiliedig ar osodiadau gwedd

Adborth a gwybodaeth am gysylltu

Os gwelwch chi unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n teimlo nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth.

Os ydych chi angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, gwybodaeth hawdd i'w darllen, recordiad sain neu braille:

  • e-bostiwch digital-accessibility@aber.ac.uk
  • ffoniwch 01970 622400
  • ymweld â’r ddesg gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen, ar Gampws Penglais

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi ⁠Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n fodlon â'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Profwyd y wefan yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (CHCG) [2.2].

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.2, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.   

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae llawer o'r gwelliannau a nodwyd y tu allan i allu'r Brifysgol i'w datrys, gan ei bod yn caffael y system gan ddarparwr trydydd parti. Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda'r darparwr trydydd parti (WPM) i geisio canfod atebion ar gyfer y canlynol:

⁠Lliw

Ar bob tudalen, nid oes digon o gyferbyniad rhwng y lliwiau ar rannau o'r testun. Gallai hyn olygu nad oes modd i bobl â nam penodol ar eu golwg ddarllen y cynnwys hwn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG 2.1.

Cydrannau

mae rhai cydrannau rhyngweithiol yn rhy agos at ardaloedd rhyngweithiol eraill ar rai tudalennau. Mae hyn yn golygu efallai nad ydynt yn ddigon pell ar wahân i ardaloedd rhyngweithiol eraill, er mwyn osgoi eu defnyddio trwy gamgymeriad. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.5.8 Maint Targed (Isafswm) CHCG 2.2. 

Ffurflenni

Ar y ffurflen chwilio, defnyddir deiliad lle yn hytrach na label. Gall hyn olygu nad yw'n glir i'r bobl sy'n llenwi'r ffurflen pa ddata y dylid ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Nid oes gan rai meysydd ffurflen labeli gweladwy ac nid ydynt yn nodi beth yw eu dibenion yn rhaglennol. Gall hyn olygu ei bod yn anoddach i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata y dylid ei gofnodi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.5 (Nodi Pwrpas Mewnbwn) CHCG 2.1.

Nid yw rheolaethau ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'w hamgylchedd, fel bod pobl â nam ar eu golwg yn dal i allu eu gweld yn glir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw'n Destun) CHCG 2.1.

Nid yw rhai botymau yn gweithio wrth ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Mae hyn yn golygu efallai na fydd pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu llenwi'r ffurflen gyda'r wybodaeth sydd ei hangen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.1.1 (Bysellfwrdd) CHCG 2.1.

Penawdau

Mae rhai tudalennau’n hepgor lefel pennawd neu’n cynnwys sawl elfen pennawd 1. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Mae rhai tudalennau'n defnyddio penawdau i dynnu sylw at destun nad ydyw'n bennawd mewn gwirionedd. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Bysellfwrdd

Mae gan rai tudalennau feysydd nad oes modd eu gweld gyda bysellfwrdd. Mae hyn yn cynnwys is-ddewislenni yn y llywio. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth yn yr is-ddewislenni ar gael i'r bobl sy'n defnyddio'r wefan gyda bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.1.1 (Bysellfwrdd) CHCG 2.1.

Cyfarwyddnodau

Nid oes unrhyw gyfarwyddnodau wedi'u nodi o fewn y tudalennau. Golyga hyn y gall pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol gael trafferth gwneud synnwyr a llywio'r tudalennau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Iaith

Mae testun Cymraeg a Saesneg ar gael ar yr un tudalennau. Gall hyn fod yn ddryslyd i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin gan y bydd yr holl destun yn cael ei ddarllen yn seiliedig ar yr un rheolau iaith ac ynganiad. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 3.1.1 CHCG 2.1. Iaith y Dudalen

Nid yw gwybodaeth am iaith y dudalen wedi'i diffinio. Gall hyn olygu nad yw technoleg gynorthwyol yn gallu cyflwyno'r testun yn gywir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 3.1.1 CHCG 2.1. Iaith y Dudalen

Dolenni

Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni cyswllt sy'n defnyddio'r un testun. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1.

Nid yw'r rhan fwyaf o'r tudalennau yn cynnwys dolenni sy'n caniatáu i ddefnyddwyr hepgor i brif gynnwys y dudalen. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol lywio'r dudalen a dod o hyd i'r prif gynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.1 (Osgoi Blociau) CHCG 2.1.

⁠Tablau

Mae tablau yn cael eu defnyddio ar gyfer gosodiad ledled y safle.  Golyga hyn ei bod hi’n ddryslyd a rhwystredig i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Mae rhai penawdau colofnau tabl yn wag ac nid ydynt yn cynnwys nodwedd cwmpas dilys. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol oherwydd ni fydd defnyddwyr yn gwybod at beth mae’r pennawd yn cyfeirio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.0.

Testun

Pan fydd y porwr wedi chwyddo tu hwnt i 200%, nid yw’r testun yn ail-lifo. Golyga hyn y bydd yn rhaid i bobl sydd angen ehangu’r testun sgrolio o’r chwith i’r dde i’w ddarllen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.10 (Ail-lifo) CHCG 2.1.

Cynnwys nad yw’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyweirio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 oni bai eu bod yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Beth ydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Mae ein map ffordd hygyrchedd [ychwanegu dolen at fap ffordd] yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 22/09/2020. Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 19/03/2025.

Cafodd y wefan hon ei phrofi yn fwyaf diweddar ar 19/03/2025 yn erbyn safon AA CHCG [2.2].

Cafodd y prawf ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Profwyd y tudalennau a welwyd fwyaf gan ddefnyddio offer profi awtomataidd gan dîm ein gwefan. Cynhaliwyd archwiliad pellach o'r wefan i safon AA CHCG 2.2.