Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Lliw

Does dim digon o gyferbyniad lliw ar rannau o’r testun ar rai tudalennau. Gall hyn olygu na all pobl â namau penodol ar eu golwg ddarllen y testun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, sef Cyferbyniad (Lleiaf).

Dogfennau

Nid yw rhai o’r dogfennau sydd ar gael ar ein gwefan wedi'u strwythuro'n gywir drwy ddefnyddio penawdau. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Mae rhai o’r dogfennau sydd ar gael ar ein gwefan heb destun fel dewis amgen ar bob un o’r delweddau. Mae hyn yn golygu nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1, sef Cynnwys Annhestunol.

Ffurflenni

Does dim labeli gan feysydd mewn ffurflenni. Gall hyn olygu nad yw'n glir i bobl sy’n llenwi'r ffurflen pa ddata y dylen nhw ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Does dim label ar y botwm mewnbynnu i ffurflenni. Gall hyn olygu nad yw'n glir i bobl sy’n llenwi'r ffurflen beth mae'r botwm yn ei wneud. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Penawdau

Mae rhai tudalennau'n sgipio un lefel o benawdau. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Delweddau

Mae rhai delweddau heb destun fel dewis amgen. Mae hyn yn golygu nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1, sef Cynnwys Annhestunol.

Tirnodau

Mae llawer o dirnodau pennawd. Mae hyn yn golygu y gallai pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ei chael hi'n anodd cyfeirio eu hunain a llywio o gwmpas y tudalennau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Nid yw’r ddolen 'sgipio’r adran lywio' yn gweithio. Mae hyn yn golygu nad yw pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu sgipio heibio i'r adran lywio er mwyn cyrraedd prif gynnwys y tudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.1 WCAG 2.1, sef Osgoi Rhwystr.

Dolenni

Mae rhai dolenni sydd heb unrhyw destun nac unrhyw destun amgen ar ddelwedd o fewn y ddolen. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).

Mae rhai tudalennau’n ailadrodd dolenni sy’n cynnwys yr un testun ond sy’n cysylltu â phethau gwahanol. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).

Mae gan rai tudalennau ddolenni sy’n defnyddio testun nad yw'n dweud wrth y defnyddiwr i ble y bydd y ddolen yn mynd â nhw. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).

Rhestrau

Mae rhestrau sy'n ddiangen gan mai dim ond un eitem y maent yn ei chynnwys. Mae hyn yn golygu y gall y cynnwys beri dryswch i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni wrthi’n ymchwilio i welliannau i'r porth, os bydd yr offeryn trydydd parti yn caniatáu.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 18/9/20. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 18/9/20.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 18/9/20. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.