Map Ffordd Hygyrchedd Technegol ar gyfer Ffurflenni Cyhoeddus Prifysgol Aberystwyth
Angen Gwelliannau
Ffurflenni
Nid oes priodoleddau awto gwblhau priodol wedi'u diffinio ar gyfer rhai meysydd ffurflen. Gall hyn olygu ei bod yn anoddach i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata y dylid ei gofnodi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.5 (Nodi Pwrpas Mewnbwn) CHCG 2.1. Rydym yn gweithio ar wellia ein holl ffurflenni i sicrhau bod gan bob maes perthnasol nodweddion awto gwblhau.
Nid yw rheolaethau ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'w hamgylchedd, fel bod pobl â nam ar eu golwg yn dal i allu eu gweld yn glir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw'n Destun) CHCG 2.1. Byddwn yn ystyried ffyrdd o wella'r cyferbyniad lliw ar gyfer rheolaethau ffurflen.
Penawdau
Mae gan rai tudalennau nifer o gynnwys pennawd 1. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r ffurflenni, gan ddiweddaru tudalennau er mwyn rhoi lefelau'r penawdau mewn trefn.
Dolenni
Mae gan rai tudalennau ddolenni sydd heb ddigon o gyferbyniad lliw â'r testun o’u hamgylch ac nid oes ganddynt arddull (megis tanlinellu) i'w gwahaniaethu oddi wrth y testun o'u hamgylch. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.1 CHCG 2.1. Byddwn yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod dolenni yn cael eu gwahaniaethu o’r testun o'u hamgylch, naill ai drwy sicrhau digon o gyferbyniad lliw rhwng testun, neu gyflwyno arddull sy’n gwahaniaethu.