Datganiad Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd ar gyfer fforymau cyhoeddus Prifysgol Aberystwyth
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i bob tudalen we sy'n cynnwys ffurflenni APEX cyhoeddus.
Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Mae arnom eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, golyga hynny y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais;
- chwyddo'r dudalen hyd at 4% heb i'r testun gael ei wthio oddi ar y sgrin
- symud drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd;
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gyda darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym ni hefyd wedi sicrhau bod y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae cyngor gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw rhai meysydd yn nodi eu pwrpas yn rhaglennol, er mwyn caniatáu i borwyr helpu defnyddwyr i lenwi ffurflenni gyda gwybodaeth hysbys
- mae’r dolenni yn cael eu gwahaniaethu o’r testun o’u cwmpas gan liw yn unig
- nid yw lefelau pennawd yn cael eu defnyddio yn eu trefn ar rai tudalennau
- nid yw cyferbyniadau rheolaethau ffurflen ar sawl ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'r cefndir
Adborth a gwybodaeth am gysylltu
Os gwelwch chi unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n teimlo nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Os ydych chi angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, gwybodaeth hawdd i'w darllen, recordiad sain neu braille:
- e-bostiwch digital-accessibility@aber.ac.uk
- ffoniwch 01970 622400
- ymweld â’r ddesg gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen, ar Gampws Penglais
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n fodlon â'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Profwyd y wefan yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (CHCG) [2.1].
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Ffurflenni
Nid oes priodoleddau awto gwblhau priodol wedi'u diffinio ar gyfer rhai meysydd ffurflen. Gall hyn olygu ei bod yn anoddach i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata y dylid ei gofnodi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.5 (Nodi Pwrpas Mewnbwn) CHCG 2.1.
Nid yw rheolaethau ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'w hamgylchedd, fel bod pobl â nam ar eu golwg yn dal i allu eu gweld yn glir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw'n Destun) CHCG 2.1.
Penawdau
Mae gan rai tudalennau nifer o gynnwys pennawd 1. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r ffurflenni, gan ddiweddaru tudalennau er mwyn rhoi lefelau'r penawdau mewn trefn.
Dolenni
Mae gan rai tudalennau ddolenni sydd heb ddigon o gyferbyniad lliw â'r testun o’u hamgylch ac nid oes ganddynt arddull (megis tanlinellu) i'w gwahaniaethu oddi wrth y testun o'u hamgylch. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.1 CHCG 2.1.
Cynnwys nad yw’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDF a dogfennau eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyweirio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 oni bai eu bod yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
Beth ydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Mae ein map ffordd hygyrchedd yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 28/02/2025. Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 28/02/2025.
Cafodd y wefan hon ei phrofi yn fwyaf diweddar ar 28/02/2025 yn erbyn safon AA CHCG [2.1].
Cafodd y prawf ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Profwyd y tudalennau a welwyd fwyaf gan ddefnyddio offer profi awtomataidd gan dîm ein gwefan. Cynhaliwyd archwiliad pellach o'r wefan i safon AA CHCG 2.2.