Datganiad Hygyrchedd Technegol

Testun Map Ffordd ar gyfer tudalennau swyddi gwag Prifysgol Aberystwyth

Angen Gwelliannau

Mae llawer o'r gwelliannau a nodwyd y tu allan i allu'r Brifysgol i'w datrys, gan ei bod yn caffael y system gan ddarparwr trydydd parti. Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda'r darparwr trydydd parti (Hireserve) i geisio canfod atebion ar gyfer y canlynol:

Botymau

Nid yw rhai botymau yn cynnwys testun amgen, sy'n golygu efallai na fydd pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu adnabod diben y botymau hyn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.6 (Penawdau a Labeli) CHCG 2.1.

Cyferbynnedd

Nid yw rhai cydrannau rhyngwyneb defnyddiwr a rheolaethau ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'w hamgylchedd, fel bod pobl â nam ar eu golwg yn dal i allu eu gweld yn glir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw'n Destun) CHCG 2.1.

Dogfennau

Nid yw rhai dogfennau sydd ar gael ar ein gwefan yn hygyrch gan nad oes ganddynt destun amgen ar ddelweddau, nid ydynt wedi'u strwythuro'n gywir neu mae ganddynt broblemau gyda thablau, penawdau a rhestrau. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Meysydd

Nid yw rhai meysydd yn nodi eu pwrpas yn rhaglennol, er mwyn caniatáu i borwyr helpu defnyddwyr i lenwi ffurflenni gyda gwybodaeth hysbys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.5 (Nodi Pwrpas Mewnbwn) CHCG 2.1.

Penawdau

Mae rhai tudalennau'n hepgor lefel pennawd. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Nid yw rhai penawdau cyswllt adran wedi'u gosod fel eitemau rhestr. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.10 (Penawdau Adrannau) CHCG 2.1.

Tirnodau

Mae rhywfaint o'r cynnwys ar ein tudalennau y tu allan i unrhyw dirnod. Gallai hyn fod yn ddryslyd i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.1 (Osgoi Blociau) CHCG.

Dolenni

Mae rhai tudalennau yn cynnwys dolenni cyswllt sy'n defnyddio testun nad yw'n rhoi gwybod yn glir i'r defnyddiwr i le bydd y ddolen yn mynd â nhw. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1.

Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni cyswllt sy'n defnyddio'r un testun. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1.

⁠Rhestrau

Mae rhai rhestrau sydd ond yn cynnwys un eitem Golyga hyn bod posibilrwydd y bydd y bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gweld y rhestrau’n ddryslyd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Gwelliannau Hygyrchedd Diweddar a Wnaed

Animeiddio

Roedd gan y dudalen gartref sioe sleidiau o ddelweddau a oedd yn ymyrryd â gallu darllenwyr sgrin i ddarllen y testun ar y dudalen. Roedd hyn yn golygu nad oedd y cynnwys yn gwneud synnwyr i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin. Nid oedd hyn yn bodloni gofyniad cydymffurfio 5.2.5 (Heb Ymyrraeth) CHCG 2.1. Mae'r sioe sleidiau o ddelweddau wedi'i dileu.

Roedd gan y dudalen hafan sioe sleidiau o ddelweddau a oedd yn symud yn awtomatig. Nid oedd mecanwaith i oedi'r animeiddiad. Gall hyn fod yn ddryslyd iawn i rai pobl a'i gwneud yn anodd gweld y wybodaeth ar y llithryddion. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.2.2 (Rhewi, Stopio, Cuddio) CHCG 2.1. Mae'r sioe sleidiau o ddelweddau wedi'i dileu.

⁠Lliwiau

Nid oedd digon o gyferbyniad lliw ar rannau o'r testun. Golyga hyn nad oedd modd i bobl â nam penodol ar eu golwg ddarllen y cynnwys hwn. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG 2.1. Mae cyferbynnedd lliw bellach wedi'i gywiro.

Dogfennau

Dim ond ar ffurf PDF y mae dogfennau ar gael. Gall hyn olygu nad oes modd i bobl chwyddo'r testun yn y ddogfen heb fod angen sgrolio o'r chwith i'r dde i'w ddarllen. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.10 (Ail-lifo) CHCG 2.1. Mae dogfennau bellach ar gael ar ffurf Word.

Ffurflenni

Ar rai ffurflenni nid oedd y labeli wedi eu gosod yn gywir mewn rhai meysydd ac roeddent yn defnyddio dalfan yn hytrach na label. Golyga hyn nad oedd yn glir i'r bobl sy'n llenwi'r ffurflen pa ddata y dylid ei roi yn y maes. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Cafodd y ffurflenni eu diweddaru i ddatrys y gwall hwn.

Nid oedd gan rai ffurflenni unrhyw ffocws gweladwy ar y botymau radio i helpu defnyddwyr i wybod pa elfen sydd â ffocws bysellfwrdd a ble maen nhw ar y dudalen. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.7 (Ffocws Gweladwy) CHCG 2.1. Bellach darperir ffocws gweladwy ar gyfer botymau radio mewn ffurflenni.

Penawdau

Roedd gan rai tudalennau nifer o benawdau. Roedd hyn yn ddryslyd pan oedd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Mae'r penawdau ychwanegol wedi'u dileu.

Roedd testun a oedd wedi’i dagio fel pennawd, ond nid oedd yn cael ei ddefnyddio fel pennawd. Roedd hyn yn ddryslyd pan oedd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Mae'r rhain bellach wedi'u dileu.

Tirnodau

Roedd nifer o brif dirnodau. Gallai hyn fod yn ddryslyd i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Erbyn hyn, dim ond un prif dirnod sydd.

Dolenni

Nid oedd pob enw cyswllt yn hygyrch gan ddarllenydd sgrin ac nid oeddent yn ddigon disgrifiadol i ddweud wrth ddefnyddiwr i ble y bydd y ddolen honno'n mynd â nhw. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)a 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth CHCG 2.1. Mae'r cysylltiadau hyn bellach wedi'u diweddaru. 

⁠Rhestrau

Nid oedd rhai rhestrau yn cynnwys elfennau rhiant a phlentyn a oedd yn gywir yn semantig. Pan fydd rhestrau'n cynnwys elfennau eraill neu eu bod yn y drefn anghywir, nid yw darllenwyr sgrin yn gallu darllen y rhestrau'n gywir. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Mae hyn bellach wedi cael ei ddatrys.

Testun

Ni ellid diystyru uchder llinell ar gyfer testun. Roedd hyn yn golygu nad oedd pobl oedd angen newid y bylchau rhwng testun yn gallu gwneud hynny. Nid oedd hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.12 (Bylchau Rhwng Testun) CHCG 2.1. Mae hyn bellach wedi cael ei drwsio.