Datganiad Map Ffordd Hygyrchedd Technegol ar gyfer Mewnrwyd a Phorth Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Angen Gwelliannau
Mae llawer o'r gwelliannau a nodwyd y tu allan i allu'r Brifysgol i'w datrys, gan ei bod yn caffael y system gan ddarparwr trydydd parti. Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda'r darparwr trydydd parti (Microsoft) i geisio canfod atebion ar gyfer y canlynol:
Lliw
Ar nifer fach o dudalennau, nid oes digon o gyferbyniad rhwng y lliwiau ar rai eiconau. Gall hyn olygu na fydd pobl â nam ar eu golwg yn gallu gweld y testun o fewn yr eiconau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG. Byddwn yn gweithio drwy'r wefan i nodi a diweddaru unrhyw eiconau nad oes ganddynt gyferbynnedd lliw digonol.
Penawdau
Mae rhai tudalennau'n hepgor lefel pennawd. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru tudalennau a phenawdau lle bo angen.
Mae gan rai tudalennau benawdau ar goll. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ddiweddaru tudalennau a phenawdau lle bo angen.
Delweddau
Nid oes testun amgen i'w weld ar gyfer rhai delweddau. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r safle, gan ychwanegu testun amgen priodol i ddelweddau.
Bysellfwrdd
Ni ellir mynd at rai rhannau o dudalennau (gan gynnwys y prif fan llywio) drwy drefn tabiau bysellfwrdd. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth o bosibl ar gael i'r bobl sy'n defnyddio'r wefan gyda bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.1.1 (Bysellfwrdd) CHCG 2.1. Byddwn yn cysylltu â'n darparwr trydydd parti i chwilio am ffyrdd o sicrhau bod modd cyrchu pob rhan o'r dudalen trwy drefn tabiau bysellfwrdd.
Dolenni
Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni cyswllt sy'n defnyddio'r un testun. Gallai hyn fod yn ddryslyd i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r wefan i ymdrin â thudalennau gyda thestun dolen ailadroddus.
Rhanbarthau
Nid oes gan rai elfennau rhanbarth enwau hygyrch. Gallai hyn olygu bod defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn ei chael hi'n anodd dehongli pwrpas neu fwriad yr elfen, a gallu gwahaniaethu'r elfen oddi wrth eraill ar yr un dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.2. Byddwn yn cysylltu â'n darparwr trydydd parti i chwilio am ffyrdd o sicrhau bod pob elfen ranbarthol yn gallu cael enw hygyrch.