Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Mewnrwyd a Phorth Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r holl dudalennau gwe o fewn Mewnrwyd a Phorth Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth

Mae safleoedd Mewnrwyd a Phorth Myfyrwyr y Brifysgol wedi'u creu gan ddefnyddio Safleoedd Cyfathrebu ar lwyfan Microsoft SharePoint trydydd parti.

⁠Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Mae arnom eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, golyga hynny y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais;
  • chwyddo'r dudalen hyd at 4% heb i'r testun gael ei wthio oddi ar y sgrin
  • symud drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd;
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gyda darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym ni hefyd wedi sicrhau bod y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae cyngor gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • Nid yw rhai delweddau’n cynnwys testun amgen
  • Nid oes gan rai adrannau lefelau pennawd priodol.
  • Mae rhai elfennau wedi'u cuddio rhag darllenwyr sgrin a/neu nid ydynt yn nhrefn tabiau bysellfwrdd.
  • Nid yw rhai elfennau rhanbarth yn cynnwys enwau hygyrch.
  • Mae gan rai tudalennau ddolenni ailadroddus, neu destun dolen ailadroddus gydag URL i gyrchfan gwahanol.
  • Nid yw'r cyferbynnedd ar rai eiconau yn bodloni'r cymarebau cyferbynnedd lleiaf.

Adborth a gwybodaeth am gysylltu

Os gwelwch chi unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n teimlo nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth.

Os ydych chi angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, gwybodaeth hawdd i'w darllen, recordiad sain neu braille:

  • e-bostiwch digital-accessibility@aber.ac.uk
  • ffoniwch 01970 622400
  • ymweld â’r ddesg gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen, ar Gampws Penglais

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi ⁠Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n fodlon â'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Profwyd y wefan yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (CHCG) [2.2].

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.2, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.   

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae llawer o'r gwelliannau a nodwyd y tu allan i allu'r Brifysgol i'w datrys, gan ei bod yn caffael y system gan ddarparwr trydydd parti. Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda'r darparwr trydydd parti (Microsoft) i geisio canfod atebion ar gyfer y canlynol:

⁠Lliw

Ar nifer fach o dudalennau, nid oes digon o gyferbyniad rhwng y lliwiau ar rai eiconau. Gall hyn olygu na fydd pobl â nam ar eu golwg yn gallu gweld y testun o fewn yr eiconau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG.

Penawdau

Mae rhai tudalennau'n hepgor lefel pennawd. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Mae gan rai tudalennau benawdau ar goll. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn edrych ar y tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Delweddau

Nid oes testun amgen i'w weld ar gyfer rhai delweddau. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1. 

Bysellfwrdd

Ni ellir mynd at rai rhannau o dudalennau (gan gynnwys y prif fan llywio) drwy drefn tabiau bysellfwrdd. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth o bosibl ar gael i'r bobl sy'n defnyddio'r wefan gyda bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.1.1 (Bysellfwrdd) CHCG 2.1.

Dolenni

Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni cyswllt sy'n defnyddio'r un testun. Gallai hyn fod yn ddryslyd i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1.

Rhanbarthau

Nid oes gan rai elfennau rhanbarth enwau hygyrch. Gallai hyn olygu bod defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn ei chael hi'n anodd dehongli pwrpas neu fwriad yr elfen, a gallu gwahaniaethu'r elfen oddi wrth eraill ar yr un dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.2.

Cynnwys nad yw’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyweirio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 oni bai eu bod yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Beth ydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Mae ein map ffordd hygyrchedd yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 31/03/2025. Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 31/03/2025.

Cafodd y wefan hon ei phrofi yn fwyaf diweddar ar 28/03/2025 yn erbyn safon AA CHCG [2.2].

Cafodd y prawf ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Profwyd y tudalennau a welwyd fwyaf gan ddefnyddio offer profi awtomataidd gan dîm ein gwefan. Cynhaliwyd archwiliad pellach o'r wefan i safon AA CHCG 2.2.