Map Ffordd Hygyrchedd Technegol ar gyfer Cwestiynau Cyffredin Prifysgol Aberystwyth
Angen Gwelliannau
Penawdau
Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn sicrhau bod y penawdau yn y drefn briodol. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiwn Cyffredin, gan ddiweddaru tudalennau er mwyn rhoi'r penawdau mewn trefn.
Delweddau
Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y delweddau i gyd yn cynnwys testun amgen. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiwn Cyffredin, gan ychwanegu testun amgen priodol i ddelweddau.
Cyfarwyddnodau
Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr mai dim ond un prif gyfarwyddnod sydd ar bob tudalen. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiynau Cyffredin, gan ddiweddaru cyfarwyddnodau lle bo angen.
Dolenni
Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod pob testun mewn dolen gyswllt yn ddefnyddiol ac nad yw'n dibynnu ar y cyd-destun. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiwn Cyffredin, gan ddiweddaru testun dolenni cyswllt lle bo angen.
Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr nad ydym yn defnyddio'r un testun ar gyfer nifer o ddolenni. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiwn Cyffredin, gan ddiweddaru testun dolenni cyswllt lle bo angen.
Tablau
Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan dablau y penawdau cywir. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiynau Cyffredin, gan ddiweddaru penawdau tablau presennol.
Testun
Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn sicrhau bod y rhestrau o bwyntiau bwled wedi’u fformatio’n gywir. Byddwn yn gweithio trwy'r Cwestiynau Cyffredin yr effeithir arnynt i gywiro hyn.
Gwelliannau Hygyrchedd Diweddar a Wnaed
Lliwiau
Ar rai tudalennau, nid oes digon o gyferbyniad rhwng y lliwiau ar rannau o'r testun. Gallai hyn olygu nad oes modd i bobl â nam penodol ar eu golwg ddarllen y cynnwys hwn. Diweddarwyd y system Cwestiynau Cyffredin i ddefnyddio ein CSS mwyaf cyfredol a ddatrysodd y rhan fwyaf o'r materion cyferbyniad lliw hyn.