Datganiad Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd ar gyfer tudalennau Cwestiynau Cyffredin Prifysgol Aberystwyth
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i bob gwe-dudalen â chyfeiriad gwe sy'n cychwyn â faqs@aber.ac.uk
Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Mae arnom eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, golyga hynny y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais;
- chwyddo'r dudalen hyd at 4% heb i'r testun gael ei wthio oddi ar y sgrin
- symud drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd;
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gyda darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym ni hefyd wedi sicrhau bod y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae cyngor gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid oes gan lawer o'n delweddau destun amgen
- mae rhai o'n dolenni'n defnyddio testun sy’n cael ei ailadrodd
- mae rhai tudalennau'n hepgor lefel pennawd
- nid yw rhai botymau’n cynnwys testun amgen
- nid yw rhai meysydd yn nodi eu pwrpas yn rhaglennol, er mwyn caniatáu i borwyr helpu defnyddwyr i lenwi ffurflenni gyda gwybodaeth hysbys
- mae rhai rhestrau ond yn cynnwys un eitem
Adborth a gwybodaeth am gysylltu
Os gwelwch chi unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n teimlo nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Os ydych chi angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, gwybodaeth hawdd i'w darllen, recordiad sain neu braille:
- e-bostiwch digital-accessibility@aber.ac.uk
- ffoniwch 01970 622400
- ymweld â’r ddesg gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen, ar Gampws Penglais
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n fodlon â'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Profwyd y wefan yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (CHCG) [2.1].
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Penawdau
Mae rhai tudalennau’n hepgor lefel pennawd neu â sawl cynnwys pennawd 1. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn sicrhau bod y penawdau yn y drefn briodol. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiwn Cyffredin, gan ddiweddaru tudalennau er mwyn rhoi'r penawdau mewn trefn.
Delweddau
Nid oes testun amgen i'w weld ar gyfer rhai delweddau. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1. Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiynau Cyffredin newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y delweddau i gyd yn cynnwys testun amgen. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiwn Cyffredin, gan ychwanegu testun amgen priodol i ddelweddau.
Cyfarwyddnodau
Mae'r rhan fwyaf o'r tudalennau'n cynnwys dau brif gyfarwyddnod. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 5.3.4 CHCG 2.1. Rolau Cyfarwyddnodau Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr mai dim ond un prif gyfarwyddnod sydd ar bob tudalen. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiynau Cyffredin, gan ddiweddaru cyfarwyddnodau lle bo angen.
Dolenni
Mae rhai tudalennau yn cynnwys dolenni cyswllt sy'n defnyddio testun nad yw'n rhoi gwybod i'r defnyddiwr i le bydd y ddolen yn mynd â nhw. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1. Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod pob testun mewn dolen gyswllt yn ddefnyddiol ac nad yw'n dibynnu ar y cyd-destun. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiwn Cyffredin, gan ddiweddaru testun dolenni cyswllt lle bo angen.
Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni cyswllt sy'n defnyddio'r un testun. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1. Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr nad ydym yn defnyddio'r un testun ar gyfer nifer o ddolenni. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiwn Cyffredin, gan ddiweddaru testun dolenni cyswllt lle bo angen.
Tablau
Ar rai tudalennau, ceir tablau lle nad oes gan benawdau’r tablau y cwmpas cywir. Gall hyn olygu ei bod yn anos i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata sydd wedi ei gynnwys yn y tabl. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan dablau y penawdau cywir. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r Cwestiynau Cyffredin, gan ddiweddaru penawdau tablau presennol.
Testun
Nid yw rhai rhestrau o bwyntiau bwled wedi'u fformatio'n gywir ac mewn gwirionedd maent yn gasgliad o restrau ar wahân yn hytrach nag un rhestr lawn. Gall hyn ddrysu a chythruddo pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Pan fyddwn yn cyhoeddi Cwestiwn Cyffredin newydd, byddwn yn sicrhau bod y rhestrau o bwyntiau bwled wedi’u fformatio’n gywir. Byddwn yn gweithio trwy'r Cwestiynau Cyffredin yr effeithir arnynt i gywiro hyn.
Cynnwys nad yw’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDF a dogfennau eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyweirio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 oni bai eu bod yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
Beth ydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Mae ein map ffordd hygyrchedd [ychwanegu dolen at fap ffordd] yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 10/09/2020. Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 26/02/2025.
Cafodd y wefan hon ei phrofi yn fwyaf diweddar ar 26/02/2025 yn erbyn safon AA CHCG [2.1].
Cafodd y prawf ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Profwyd y tudalennau a welwyd fwyaf gan ddefnyddio offer profi awtomataidd gan dîm ein gwefan. Cynhaliwyd archwiliad pellach o'r wefan i safon AA CHCG 2.2.