Datganiad Hygyrchedd Technegol
Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.
Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
- Nid yw ffocws y bysellfwrdd i'w weld ar gyfer y ddau dab cyntaf ar ôl derbyn y neges cwcis cyn hynny - mae'n symud â tab rhwng y botymau Derbyn a Gwrthod ar y neges pan nad yw'n weladwy (2.4.7 Focus Visible)
- Nid oes gan y ddelwedd Culture Shift ar waelod ochr dde pob tudalen enw hygyrch (1.1.1 Non-text Content)
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Nid yw'r materion a nodir uchod yn bethau y gallwn eu newid. Rydym wedi rhoi gwybod i Culture Shift am y materion hyn fel y gallant wneud gwelliannau yn y dyfodol.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 23/08/2022. Byddwn yn adolygu’r datganiad hwn bob blwyddyn ac yn ei adolygu nesaf ym mis Awst 2023.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf a 23/08/2022. Cynhaliwyd y prawf gan staff y Tîm Cymwysiadau ac Integreiddio, yn y Gwasanaethau Gwybodaeth.