Map Ffordd Hygyrchedd Technegol ar gyfer Porth Derbyn Graddedigion Prifysgol Aberystwyth
Angen Gwelliannau
Lliw
Nid oes gan rywfaint o’r testun ddigon o gyferbyniad â'r lliw cefndirol, felly efallai na fydd modd i bobl â nam ar eu golwg ddarllen y testun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG 2.1. Byddwn yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod testun yn cael ei wahaniaethu o’r cefndir, trwy sicrhau digon o gyferbyniad lliw.
Ffurflenni
Nid oes priodoleddau awto gwblhau priodol wedi'u diffinio ar gyfer rhai meysydd ffurflen. Gall hyn olygu ei bod yn anoddach i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata y dylid ei gofnodi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.5 (Nodi Pwrpas Mewnbwn) CHCG 2.1. Rydym yn gweithio ar wellia ein holl ffurflenni i sicrhau bod gan bob maes perthnasol nodweddion awto gwblhau.
Nid yw rheolaethau ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'w hamgylchedd, fel bod pobl â nam ar eu golwg yn dal i allu eu gweld yn glir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw'n Destun) CHCG 2.1. Byddwn yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod rheolaethau ffurflen yn cael eu gwahaniaethu o’r testun o'u hamgylch, naill ai drwy sicrhau digon o gyferbyniad lliw, neu gyflwyno arddull sy’n gwahaniaethu.
Nid yw rhai botymau yn gweithio wrth ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Mae hyn yn golygu efallai na fydd pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu llenwi'r ffurflen gyda'r wybodaeth sydd ei hangen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.1.1 (Bysellfwrdd) CHCG 2.1. Byddwn yn gweithio ein ffordd drwy'r tudalennau i drwsio unrhyw fotymau sydd wedi torri.
Penawdau
Nid oes gan rai tudalennau Bennawd 1 gweladwy neu briodol, felly efallai na fydd prif bwnc y brif dudalen ar gael i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Byddwn yn diweddaru tudalennau gyda phenawdau priodol a gweladwy.
Cyfarwyddnodau
Nid yw'r rhan fwyaf o'r tudalennau yn cynnwys prif gyfarwyddnod er mwyn nodi prif gynnwys y dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 5.3.4 CHCG 2.1. Rolau Cyfarwyddnodau Byddwn yn adolygu dyluniad y safle i sicrhau bod y prif gynnwys yn cael ei gynnwys mewn prif gyfarwyddnod.
Dolenni
Dim ond yn ôl lliw y gellir gwahaniaethu rhwng rhai dolenni â'r testun o'u hamgylch, felly efallai na fydd y dolenni'n weledol amlwg heb olwg lliw. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.1 CHCG 2.1. (Defnyddio Lliw). Byddwn yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod dolenni yn cael eu gwahaniaethu o’r testun o'u hamgylch, naill ai drwy sicrhau digon o gyferbyniad lliw rhwng testun, neu gyflwyno arddull sy’n gwahaniaethu.
Nid yw'r rhan fwyaf o'r tudalennau yn cynnwys dolenni sy'n caniatáu i ddefnyddwyr hepgor i brif gynnwys y dudalen. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol lywio'r dudalen a dod o hyd i'r prif gynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.1 (Osgoi Blociau) CHCG 2.1. Byddwn yn ystyried ffyrdd o gyflwyno dolenni sy'n caniatáu i ddefnyddwyr neidio i brif gynnwys y dudalen lle bo hynny'n briodol.
Tablau
Nid yw rhai tablau yn defnyddio'r nodwedd cwmpas i gysylltu celloedd pennawd a chelloedd data mewn tablau data. Gall hyn olygu ei bod yn anos i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall y data sy’n cael ei gyflwyno. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1. Rydym yn gweithio ar wneud gwelliannau i'n holl dablau, er mwyn sicrhau bod pob pennawd colofn wedi'i alinio â'r nodweddion cwmpas cywir.
Testun
Wrth gynyddu maint ffont, yn enwedig wrth ddefnyddio dyfeisiau symudol, mae rhywfaint o destun wedi'i guddio neu ei guddio'n rhannol, felly efallai na fydd pobl yn gallu gweld yr holl destun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.4 (Ailfeintio Testun) CHCG 2.1. Byddwn yn adolygu dyluniad y safle i sicrhau nad yw testun yn guddiedig neu'n rhannol guddiedig wrth gynyddu maint y ffont.
Gwelliannau Hygyrchedd Diweddar a Wnaed
Ffurflenni
Ni ellid cael mynediad i’r dewisydd dyddiad a ddefnyddir ar rai o'n ffurflenni gan ddefnyddio bysellfwrdd, felly roedd yn rhaid i bobl a oedd yn llenwi'r ffurflen nodi manylion â llaw. Er bod hyn yn bodloni meini prawf llwyddo 2.2.1 CHCG 2.1 (Bysellfwrdd) gan fod dull amgen o gyflwyno'r wybodaeth, roedd y dewisydd
Yn rhai o'n ffurflenni, nid oedd y drefn ffocws yn dilyn trefn resymegol, felly mae’n bosibl y bydd pobl sy'n defnyddio'r ffurflen yn methu maes gofynnol wrth lenwi'r ffurflen gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo (Ffocws Gweladwy) 2.4.3 CHCG 2.1. Mae trefn ffocws tudalennau wedi'i diwygio i sicrhau trefn resymegol a chynnwys yr holl elfennau.
Delweddau
Roedd rhai delweddau â'r un testun amgen â delweddau eraill ar y dudalen, a allai fod wedi bod yn ddryslyd i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1. Mae delweddau naill ai wedi'u tynnu neu mae testun amgen gwahanol wedi'i ddarparu.