Datganiad Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Porth Derbyn Graddedigion Prifysgol Aberystwyth
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i bob gwe-dudalen â chyfeiriad gwe sy'n cychwyn ag apply.aber.ac.uk
Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Mae arnom eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, golyga hynny y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais;
- chwyddo'r dudalen hyd at 4% heb i'r testun gael ei wthio oddi ar y sgrin
- symud drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd;
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gyda darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).
Rydym ni hefyd wedi sicrhau bod y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae cyngor gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- mae rhai tudalennau'n hepgor lefel pennawd
- nid yw rhai meysydd yn nodi eu pwrpas yn rhaglennol, er mwyn caniatáu i borwyr helpu defnyddwyr i lenwi ffurflenni gyda gwybodaeth hysbys
- nid yw rhai botymau’n gweithio wrth ddefnyddio darllenwyr sgrin
- mae’r dolenni yn cael eu gwahaniaethu o’r testun o’u cwmpas gan liw yn unig
- nid oes gan rywfaint o’r testun ddigon o gyferbyniad â'r lliw cefndirol
- nid yw rheolaethau ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'w hamgylchedd
- ni all defnyddwyr neidio i brif gynnwys y dudalen
- nid yw cyfarwyddnodau’n nodi prif gynnwys y dudalen
Adborth a gwybodaeth am gysylltu
Os gwelwch chi unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n teimlo nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
Os ydych chi angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, gwybodaeth hawdd i'w darllen, recordiad sain neu braille:
- e-bostiwch digital-accessibility@aber.ac.uk
- ffoniwch 01970 622400
- ymweld â’r ddesg gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen, ar Gampws Penglais
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n fodlon â'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Profwyd y wefan yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (CHCG) [2.1].
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Lliw
Nid oes gan rywfaint o’r testun ddigon o gyferbyniad â'r lliw cefndirol, felly efallai na fydd modd i bobl â nam ar eu golwg ddarllen y testun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbynnedd (Lleiaf)) CHCG 2.1.
Ffurflenni
Nid oes priodoleddau awto gwblhau priodol wedi'u diffinio ar gyfer rhai meysydd ffurflen. Gall hyn olygu ei bod yn anoddach i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata y dylid ei gofnodi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.5 (Nodi Pwrpas Mewnbwn) CHCG 2.1.
Nid yw rheolaethau ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'w hamgylchedd, fel bod pobl â nam ar eu golwg yn dal i allu eu gweld yn glir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw'n Destun) CHCG 2.1.
Nid yw rhai botymau yn gweithio wrth ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Mae hyn yn golygu efallai na fydd pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu llenwi'r ffurflen gyda'r wybodaeth sydd ei hangen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.1.1 (Bysellfwrdd) CHCG 2.1.
Nid yw rhywfaint o'r testun cymorth sy'n gysylltiedig ag elfennau mewnbwn ffurflenni yn hygyrch wrth ddefnyddio bysellfwrdd, felly gallai hyn wneud y ffurflen yn anodd ei llenwi os nad yw pobl yn deall beth ddylai elfen mewnbwn ffurflen ei gynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.1.1 (Bysellfwrdd) CHCG 2.1.
Penawdau
Nid oes gan rai tudalennau Bennawd 1 gweladwy neu briodol, felly efallai na fydd prif bwnc y brif dudalen ar gael i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.
Cyfarwyddnodau
Nid yw'r rhan fwyaf o'r tudalennau yn cynnwys prif gyfarwyddnod er mwyn nodi prif gynnwys y dudalen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 5.3.4 CHCG 2.1. Rolau Cyfarwyddnodau
Dolenni
Dim ond yn ôl lliw y gellir gwahaniaethu rhwng rhai dolenni â'r testun o'u hamgylch, felly efallai na fydd y dolenni'n weledol amlwg heb olwg lliw. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.1 CHCG 2.1. (Defnyddio Lliw).
Nid yw'r rhan fwyaf o'r tudalennau yn cynnwys dolenni sy'n caniatáu i ddefnyddwyr hepgor i brif gynnwys y dudalen. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol lywio'r dudalen a dod o hyd i'r prif gynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.1 (Osgoi Blociau) CHCG 2.1.
Tablau
Nid yw rhai tablau yn defnyddio'r nodwedd cwmpas i gysylltu celloedd pennawd a chelloedd data mewn tablau data. Gall hyn olygu ei bod yn anos i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall y data sy’n cael ei gyflwyno. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.
Testun
Wrth gynyddu maint ffont, yn enwedig wrth ddefnyddio dyfeisiau symudol, mae rhywfaint o destun wedi'i guddio neu ei guddio'n rhannol, felly efallai na fydd pobl yn gallu gweld yr holl destun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.4 (Ailfeintio Testun) CHCG 2.1.
Cynnwys nad yw’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDF a dogfennau eraill
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyweirio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 oni bai eu bod yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Fideo byw
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.
Beth ydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Mae ein map ffordd hygyrchedd yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 23/09/2019. Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 17/03/2025.
Cafodd y wefan hon ei phrofi yn fwyaf diweddar ar 14/03/2025 yn erbyn safon AA CHCG [2.1].
Cafodd y prawf ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Profwyd y tudalennau a welwyd fwyaf gan ddefnyddio offer profi awtomataidd gan dîm ein gwefan. Cynhaliwyd archwiliad pellach o'r wefan i safon AA CHCG 2.2.