Rhan-amser Allanol
Gall myfyrwyr sydd â chyfle i ailsefyll modiwlau a fethwyd wneud hynny fel myfyrwyr Rhan-amser Allanol. Os ydych am gofrestru ar gyfer hynny rhaid i chi lenwi'r ffurflen bwrpasol. Cyn cofrestru, ceisiwch gyngor eich adran ac ystyriwch y pwyntiau hyn yn ofalus;
- Nid yw myfyrwyr Rhan Amser Allanol yn mynychu'r Brifysgol. h.y. nid ydynt yn mynd i ddarlithiau, tiwtorial, a.y.b.
- Maent yn ailsefyll modiwlau a fethwyd, a'r rheini'n unig: ni allant wneud modiwlau eraill yn eu lle.
- Rhaid iddynt gofrestru ar gyfer pob modiwl sy'n cael ei ailsefyll, beth bynnag fydd ffurf yr asesiad , e.e. traethawd, arholiad a.y.b.
- Rhaid i fyfyrwyr Rhan Amser Allanol gysylltu â'u hadrannau i gael gwybod pa waith fydd ei angen. Peidiwch â chymryd y bydd yr adran yn cysylltu â chi.
- Dylai myfyrwyr Rhan Amser Allanol gysylltu â'r cyrff / adrannau hyn i gael gwybod beth fydd cofrestru Rhan-amser Allanol yn ei olygu iddynt. Er enghraifft, efallai na fyddwch yn gymwys am;
- Visa (os ydych yn fyfyriwr tramor) a cheisio cyngor ar fisa gan yr Ymgynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol, immigrationadvice@aber.ac.uk
- Eithrio rhag Treth y Cyngor
- Benthyciad i fyfyriwr
- Llety'r Brifysgol
- Ar ôl cofrestru mae gan fyfyrwyr Rhan Amser Allanol hawliau llawn i ddefnyddio'r llyfrgell a'r Cyfrifiadur.
- Mae manylion am ffioedd Rhan-amser Allanol ynghyd â sut i'w talu ar gael yma.
- Os ydych am gofrestru fel myfyriwr Rhan-amser Allanol rhaid i chi wneud hynny erbyn 31 Hydref.
Sut i gofrestru fel myfyriwr Rhan-amser Allanol
- Mae ffurflenni Rhan-amser Allanol ar gael o'r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd ac oddi yno'n unig. Gellir gofyn am ffurflen drwy e-bostio ugfstaff@aber.ac.uk. Does dim angen dod i Aberystwyth i gofrestru.
- Rhaid i bob myfyriwr geisio cyngor ei adran cyn llenwi'r ffurflen.
- Os ydych am gofrestru fel myfyriwr Rhan-amser Allanol rhaid i chi wneud hynny erbyn 31 Hydref.
- Ar ôl llenwi'r ffurflen rhaid ei dychwelyd i'r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd, Prifysgol Aberystwyth, Llawr Cyntaf, Adeilad Cledwyn, Campws Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DD.
- Bydd ffurflenni sydd yn cael ei danfon i’r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd heb llofnod yr adran yn cael ei danfon ir adrannau perthnasol i’w llofnodi cyn i'r Gofrestrfa Academaidd allu brosesu’r ffurflen.