Materion Israddedigion

RHAG- GOFRESTRU AR GYFER MODIWLAU 2024/2025

HYSBYSIAD I FYFYRWYR SY’N GWNEUD CWRS GRADD MODIWLAR YN SESIWN 2024/2025

Bydd rhaid i’r holl fyfyrwyr israddedig sy’n parhau â’u gradd rhag-gofrestru eu dewis o fodiwlau ar gyfer 2024/2025 gyda’r Gofrestrfa.  Dosberthir manylion llawn, a fydd yn cynnwys cyfarwyddyd ynghylch cyrchu a mewnbynnu eich dewis o fodiwlau ar-lein, manylion y modiwlau a gofynion cynlluniau gradd.  Bydd gwybodaeth cyfarwyddiadau’n esbonio sut i gael manylion y modiwlau a gofynion cynlluniau gradd ar y We, a rhagor o wybodaeth hanfodol i’r holl fyfyrwyr drwy eich “Cofnod Myfyriwr” sydd i’w weld trwy gyfrwng tudalen flaen y myfyrwyr.  Bydd manylion llawn a’r gael o Ddydd Llun 15 Ebrill.  Yn y cyfamser, gobeithio y byddwch chi'n mwynhau gwyliau y Pasg.

BYDD RHAG-GOFRESTRU YN DECHRAU DDYDD LLUN 15 EBRILL A DYLECH OFALU EICH BOD YN CWBLHAU’R BROSES RHAG-GOFRESTRU ERBYN DYDD GWENER 26 EBRILL FAN BELLAF.

Gwybodaeth i Israddedigion

Cysylltwch â Ni

Tîm E-bost Ffôn
Gweinyddu Myfyrwyr Israddedig ugfstaff@aber.ac.uk (01970) 622290 / 628515 / 622787
Gweinyddu Myfyrwyr Dysgu o Bell dlrstaff@aber.ac.uk (01970) 622290 / 622057
Tystysgrifau aocstaff@aber.ac.uk (01970) 622016 / 622354 / 622849
Graddio gaostaff@aber.ac.uk (01970) 622354 / 622849

Yr ydym ar agor dydd Llun i dydd Iau 9yb at 5yp a dydd Gwener 9yb at 4yp ar y llawr cyntaf, adeilad Cledwyn , campws Penglais.

Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr

Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth,

Llawr cyntaf, Adeilad Cledwyn,

Campws Penglais,

Aberystwyth

SY23 3DD

Gwasanaethau ymholiad rhithwir