Ailsefyll yn Fewnol
Mae myfyrwyr Rhan Dau sydd wedi llwyddo i fynd i'r flwyddyn nesaf o'r cwrs ond yn cario methiant o'r sesiwn ddiwethaf yn cael cyfle i adfer eu methiant wrth gofrestru i ailsefyll yn fewnol y sesiwn ddilynol, os oes ganddynt raddau 'F', 'A', 'H', neu 'S'. Dylid bwrw golwg ar safle we y Brifysgol am wybodaeth bellach ynglyn ag arholiadau ac ystyr y graddau gwahanol. Bydd eich adrannau yn gallu rhoi cyngor ynglyn â pha fodiwlau y dylai myfyrwyr eu hailsefyll. Mae'n bwysig bod pob myfyriwr yn cysylltu gyda'r adrannau priodol ynglyna gofynion yr asesiad(au).
Mae taliadau Ailsefyll yn Fewnol ar gael ar dudlaen we Taliadau Ailsefyll. Bydd myfyrwyr sydd yn cofrestru yn hwyr ar ol y dyddiad cau hefyd yn talu ffi cofrestru yn hwyr o £50.
I gofrestru ar gyfer Ailsefyll yn Fewnol;
Rhaid i fyfyrwyr gofrestru drwy’r system ar-lein cofrestru Ailsefyll yn Fewnol sydd ar gael ar eich cofnod ar y we yn ystod y ddwy wythnos olaf o mis Hydref. Bydd angen i bob cofrestriad i ailsefyll gael ei gymeradwyo gan y yr adran briodol. Rhaid i bawb cofrestru erbyn 31 Hydref. Os nad ydych yn cofrestru i ailsefyll modiwlau ni fydd unrhyw farc(iau) a enillwch yn ymddangos ar eich cofnod ac ni fydd(ant) yn cyfrif at eich gradd derfynol, codir tâl cofrestru hwyr o £ 50 i chi hefyd. Os oes gennych unrhyw ymholiad ynglyn a'ch cofrestriad gellir e-bostio ugfstaff@aber.ac.uk.
I dynnu allan o ailsefyll modiwl;
Os cofrestrwch i ailsefyll modiwl, a phenderfynu wedyn peidio ag ailsefyll am ba reswm bynnag (er enghraifft, oherwydd cyngor gan eich adran) rhaid ichi dynnu allan erbyn 15 Tachwedd (ar gyfer semester 1) a 15 Mawrth (ar gyfer semester 2). Os na thynnwch allan bydd eich cofnod yn dangos ichi ailsefyll a methu a chodir y tâl ailsefyll arnoch o hyd. (Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydych heb fynd i'r arholiad neu heb gyflwyno gwaith ysgrifenedig ar gyfer y modiwl dan sylw). Sylwch mai'r marc uchaf a gawsoch yn y modiwl sy'n cyfri at eich gradd.
Er mwyn tynnu allan rhaid ichi e-bostio ugfstaff@aber.ac.uk gan roi eich manylion myfyriwr a manylion y modiwl rydych yn tynnu allan ohono.