Rhag Cofrestru

MAE RHAG-GOFRESTRU 2024/2025 WEDI GORFFEN AR GYFER MYFYRWYR SY’N DYCHWELYD

Mae myfyrwyr sydd yn dychwelyd ac sydd wedi cwblhau Rhag-cofrestru yn Ebrill 2024 ac wedi cael eu dewisiadau i'w cymeradwyo gan yr adran(nau) yn gymwys i gwblhau ‘Cofrestru Ar-lein’ o Ddydd Iau 19 Medi ymlaen.  Os ewch ati i gofrestru’n gynnar bydd eich benthyciad myfyriwr yn cael ei dalu’n ddi-oed i’ch cyfrif banc.

Bydd y myfyrwyr sydd heb cwblhau y broses Rhag-gofrestru yn llwyddiannus yn gorfod aros tan Ddydd Mercher 25 Medi er mwyn i’ch adran helpu chi gyda’ch dewisiadau cyn ichi wedyn fedru cwblhau ‘Cofrestru Ar-lein’.