Rhag Gofrestru
Gwybodaeth Pwysig ar gyfer Rhag Gofrestru 2025/2026
DARLLENWCH Y NODIADAU HYN YN OFALUS CYN SYMUD YMLAEN
Gwybodaeth Gyffredinol
1. Mae angen i’r holl fyfyrwyr sy’n dychwelyd gofrestru eu dewisiadau modiwl ar gyfer 2025/2026 ar ddechrau tymor yr haf.
DS. Ni fydd angen i’r grwpiau canlynol o fyfyrwyr gwblhau’r broses o rhag gofrestru oherwydd cymeradwyir eu modiwlau yn awtomatig:
• Myfyrwyr sydd yn mynd ar flwyddyn ryng-gwrs neu dramor sydd yn rhan hanfodol o’u gradd;
• Myfyrwyr sydd yn cymryd cyfanswm o 120 credyd o fodiwlau craidd
2. Gallwch weld manylion eich cynllun astudio a’ch modiwlau craidd ar gyfer 2025/2026 yn eich cofnod ar y we. Mae’n hanfodol eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer eich adran(nau) gan fod gofynion adrannau unigol yn aml yn amrywio.
3. Rhennir y cyfnod Rhag Gofrestru yn ddwy ran, sef Cyfnod Ymgynghori, a fydd yn para o Ddydd Llun 28 Ebrill tan Dydd Mercher 30 Ebrill pan fyddwch yn cael cyfle i edrych ar ddata’r sesiwn nesaf ond heb fedru cofnodi eich dewision. Yna, bydd eich cofnod yn cael ei ddatgloi Ddydd Iau 1 Mai tan Dydd Gwener 9 Mai i’ch galluogi i gofnodi eich dewision yn dilyn trafodaethau gyda’r adran(nau).
4. Dylech edrych ar y Cynlluniau Astudio a’r Modiwlau a'r y we er mwyn sicrhau eich bod yn bodloni gofynion yr adrannau ac yn cofrestru am y modiwlau perthnasol.
5. Dylech wirio’r gofynion adrannol ar gyfer cofrestru amodol, gan sicrhau eich bod yn mynd i unrhyw gyfarfodydd cyn cofnodi eich dewis o fodiwlau ar gyfer y sesiwn nesaf yn uniongyrchol yn eich cofnod ar y we.
6. Mae’n rhaid i chi sicrhau nad yw cyfanswm y credydau a gofnodir yn eich cofnod yn uwch na’r nifer y mae gofyn i chi eu hastudio. Bydd y mesurau gwirio isod ar waith:
• Ni fyddwch yn gallu tynnu unrhyw fodiwlau craidd o’ch cofnod. Os oes amgylchiadau arbennig sy’n golygu na fyddwch yn dilyn modiwl craidd y sesiwn nesaf dylech cysylltu â’ch adran;
• Ni fyddwch yn gallu cofnodi modiwlau yr ydych wedi eu hastudio eisoes;
• Ni ddylech rhannu eich credydau yn fwy na 70:50 / 50:70 rhwng y ddau semester;
• Os byddwch yn cynnwys modiwl yn y semester anghywir bydd yn cael ei symud yn awtomatig i’r semester cywir;
• Ni fydd y system yn caniatáu i chi gofnodi rhagor na’r nifer o gredydau y mae’n ofynnol i chi eu dilyn y sesiwn nesaf.
7. Rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cofnodi eich holl ddewisiadau erbyn DYDD GWENER 9 MAI fan bellaf. Wedi i’ch adran(nau) gadarnhau eich dewisiadau byddwch yn cael e-bost i gadarnhau bod hyn wedi’i wneud a gallwch weld eich modiwlau yn eich cofnod ar y we dan sesiwn 2025/2026.
Myfyrwyr sydd eisiau Newid Cynllun Astudio.
8. Os ydych yn dymuno newid eich cynllun astudio sesiwn nesaf dylech (dim ond yn bosib os ydych wedi dilyn holl fodiwlau craidd ac opsiynol y cynllun newydd o'r blaen) gwblhau'r broses Newid Cofrestriad ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we cyn gynted ag y bo modd a chyn i chi roi eich dewis o fodiwlau ar gyfer y sesiwn nesaf. Bydd RHAID i'ch cais i Newid Cofrestriad cael eu cymeradwyo a'u prosesu cyn y gallwch barhau â'r Cofrestru Amodol. I wneud cais i Newid Cofrestriad bydd angen i chi fewngofnodi ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we, ac yna cliciwch ar y ddolen Cofnod Academaidd ar ben eich tudalen cartref, o'r rhestr o gysylltiadau yn y gwymplen cliciwch ar 'Newid Cofrestriad'.
9. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ac eich Awdurdod Lleol cyn gynted ag y bo’r newid wedi’i gymeradwyo er mwyn sicrhau y bydd eich arian yn cael ei drosglwyddo’n ddidrafferth cyn dechrau’r sesiwn.
Myfyrwyr sy'n cymryd Blwyddyn Allan.
10. Bydd myfyrwyr sy’n mynd ar flwyddyn ryng-gwrs/dramor y sesiwn nesaf yn gweld bod modiwlau gwerth 120 credyd yn eu cofnod eisoes. Modiwlau blwyddyn mewn gwaith yw’r rhain sy’n dangos y byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr amser llawn. Cymeradwyir eich modiwlau yn awtomatig, fodd bynnag, mae'n bwysig eich bod yn cwblhau y dasg Cofrestri Ar lein ym mis Medi i gadarnhau eich bod yn cychwyn ar eich lleoliad . Byddwch yn gallu cofrestru ar-lein drwy eich Cofnod Myfyriwr o'r tu allan i'r fewnrwyd y Brifysgol ym mis Medi.
11. Os ydych yn bwriadu treulio Blwyddyn mewn Gwaith y sesiwn nesaf dylech glicio’r a'r yr opsiwn priodol o'r rhestr cwymp i ddangos beth yw eich bwriad.
12. Os ydych yn bwriadu mynd ar leoliad Cyfnewid y sesiwn nesaf dylech glicio’r a'r yr opsiwn priodol o'r rhestr cwymp i ddangos beth yw eich bwriad. Os mai dim ond am un semester byddwch ar leoliad dim ond 60 credyd y dylech eu cofnodi yn y semester pan fyddwch yn Aberystwyth.
13. Dylai myfyrwyr sydd eisiau seibiant o’u hastudiaethau e.e. ar seiliau personol neu feddygol, ymgynghori â’u hadran(nau) a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth cyn prosesu cais i 'Ymadael' ar eich Cofnod Myfyriwr.