Rhag-Gofrestru 2024/2025

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd 

Os byddwch yn dilyn cynllun gradd a ddysgir ar y cyd gan adran arall bydd yn rhaid ichwi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion rhag-gofrestru yr adran honno yn ogystal.

Dyma’r gofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cynlluniau yn yr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd:

Bydd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn gosod cyngor am Rag-gofrestru ar safle Bwrdd Du y modiwl ‘Gwybodaeth i fyfyrwyr israddedig Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd’. Bydd y wybodaeth hon ar gael o ddydd Llun 15 Ebrill ymlaen.

Mae’r modiwl hwn yn cynnwys ffolder o’r enw ‘Rhag-gofrestru’ a fydd yn cynnwys fideo ymgynghorol a disgrifiadau byrion o fodiwlau 2024/25. Gofynnir i chi dalu sylw i fodiwlau craidd eich cynllun gradd a amlinellir yn y fideo ac yn y sleidiau am Rag-gofrestru.

Byddwch chi wedyn yn nodi eich dewisiadau ar eich cofnod myfyriwr o 9 o’r gloch y bore o ddydd Iau 18 Ebrill – ddydd Gwener 26 Ebrill.

Cofiwch fod modd ichi gysylltu â’ch tiwtor personol neu â chydlynwyr modiwlau os oes cwestiynau gennych am Rag-gofrestru. Bydd eich tiwtoriaid ar gael i gynnal sgwrs unigol dros Microsoft Teams neu i drafod eich cwestiynau drwy ebost. Mae croeso hefyd ichi gysylltu â’r Adran yn uniongyrchol drwy ebostio cymraeg@aber.ac.uk.

 

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol cysylltwch â:

Gweinyddiaeth Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd           
Ffôn:  628515/622787   
Ebost: ugfstaff@aber.ac.uk