Rhag Gofrestru 2024/2025
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu:
Dyddiadau Allweddol
15 Ebrill 2024
Rhyddheir yr holl wybodaeth gyfredol ar-lein ar y dyddiad hwn, a bydd rhetstr o’r modilwau ar gael trwy’r ddolen ganlynol: Prifysgol Aberystwyth - Cynlluniau Astudio : Blwyddyn Academaidd Nesaf
15 Ebrill - 17 Ebrill 2024
Ystyrir y dyddiadau hyn yn gyfnod ymgynghori. Bydd Cydlynydd y Cynlluniau Gradd mewn cysylltiad o flaen llaw i amlinellu strwythur ac anghenion eich cynllun gradd, ac er mwyn rhoi cyfle i chi drafod eich dewisiadau modiwl.
Dylid cyfeirio at wybodaeth modiwlau a lle bo angen cysylltu â Chydlynwyr Modiwlau am ragor o wybodaeth am eich modiwlau dethol. Bydd eich Tiwtor Personol hefyd ar gael i drafod eich dewisiadau os dymunwch wneud hynny.
Am wybodaeth ynglŷn â:
Astudiaethau Cyfryngau a Chyfathrebu (Cynllun trwy’r Saesneg) - Dr Greg Bevan (gwb15@aber.ac.uk)
Astudiaethau Ffilm a Theledu - Dr Greg Bevan (gwb15@aber.ac.uk)
Creu Ffilm (Cynllun trwy’r Saesneg) - Dr Rod Munday (odm@aber.ac.uk)
Cyfrwng Cymraeg - Dr Roger Owen (roo@aber.ac.uk)
Gan gynnwys:
- Astudiaethau Ffilm a Theledu
- Creu Cyfryngau
- Creu Perfformio
- Drama a Theatr
Drama a Theatr - Dr Andrew Filmer (awf@aber.ac.uk)
Dylunio Theatr a Pherfformiad (Cynllun trwy’r Saesneg) - Yr Athro Simon Banham (shb@aber.ac.uk)
Ysgrifennu ar gyfer Darlledy, Cyfryngau a Pherfformio (Cynllun trwy’r Saesneg) - Dr Lucy Gough (lug3@aber.ac.uk)
Myfyrwyr Cyfnewid - Swyddfa TFTS (tfts@aaber.ac.uk)
18 Ebrill 2024
Bydd y system Cofrestru Dros-dro yn ‘fyw’ ar 20 Ebrill 2024, a bryd hynny gallwch fewngofnodi i’ch Cofnod Myfyrwyr a dewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd eich Cofnod Myfyriwr eisoes yn cynnwys unrhyw fodiwlau craidd.
26 Ebrill 2024 am 5:00 y.h.
Dyma’r dyddiad terfynol i ddewis eich modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’n hanfodol bwysig o safbwynt cynllunio bod eich dewisiadau wedi’u cofnodi erbyn y dyddiad hwn fan bellaf.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, dylech gysylltu â:
Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd
Ffôn: 628515/622787
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk