Rhag-Gofrestru 2024/2025
Seicoleg
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Seicoleg.
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion eich cynllun: https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/Psychology/
Bydd rhag-cofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9yb ar ddydd Iau 18 Ebrill - dydd Gwener 26 Ebrill . (Cyn y dyddiad hwn byddwch dim ond yn gallu gweld eich cofnod, ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau rhag-gofrestru ac yna disgwyliwch am gadarnhad (drwy'r e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.
Bydd sgyrsiau rhag-gofrestru ar gael rhwng 15-17 Ebrill a dylech fonitro eich e-bost ar gyfer y wybodaeth hon.
NODIADAU PWYSIG:
Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy gofnod y myfyriwr cyn gynted â phosibl a chyn dydd Gwener 26 Ebrill 2024
Dylai myfyrwyr nodi bod rhai modiwlau wedi'u capio i hwyluso cyflwyno'r modiwlau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer dosbarthiadau llai lle mae disgwyl ymgysylltu a gweithgaredd myfyrwyr neu'n rhan o asesiadau, a lle mae angen adnoddau pellach.
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25 mae lleoedd cyfyngedig i'r modiwlau canlynol:
Blwyddyn 3:
- PS31920: Counselling, Coaching and Mentoring (uchafswm o 40 myfyriwr)
- PS30820: Drugs and Behaviour (uchafswm o 40 myfyriwr)
Blwyddyn 2:
- PS21720 Issues in Clinical Psychology
- PS31920: Counselling, Coaching and Mentoring (uchafswm o 40 myfyriwr)
- PS30820: Drugs and Behaviour (uchafswm o 40 myfyriwr)
Os ydych yn dewis y modiwlau hyn fel opsiynau yna bydd mynediad i'r modiwlau hyn ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd niferoedd myfyrwyr sy'n fwy na'r cap yn cael eu rhoi ar restr aros.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru yn yr Adran, dylech gysylltu â’ch tiwtor personol.:
Rheolwyr y Gofrestrfa Academaidd (flrstaff@aber.ac.uk)
Jackie Lupton,Swyddog y Gofrestrfa Academaidd (psychology@aber.ac.uk)
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau cyffredinol at:
Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd
Ffôn: 628515/622787
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk