Rhag-Gofrestru 2024/2025
Adran Ffiseg
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Ffiseg.
Nid oes gan y mwyafrif o fyfyrwyr Ffiseg ddewis o fodiwlau heblaw am ddewis y modiwl cyfrwng Cymraeg neu'r modiwl Saesneg cyfatebol, ond mae gan rai myfyrwyr ychydig ddewis o fodiwlau ar rai cynlluniau astudio. Dylech edrych ar y manylebau perthnasol ar gyfer eich cynllun astudio o'r we a dewis eich modiwlau yn unol â hynny os oes dewis (https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/Physics/). Mae rhestr o'r modiwlau ffiseg yn https://www.aber.ac.uk/cy/modules/deptfuture/Physics/ gyda gwybodaeth am bob modiwl a'i ragofynion.
Bydd rhag-gofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9yb ar ddydd Iau 18 Ebrill - dydd Gwener 26 Ebrill. (Cyn y dyddiad hwn byddwch dim ond yn gallu gweld eich cofnod, ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau rhag-gofrestru ac yna disgwyliwch am gadarnhad (drwy'r e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.
Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy eu cofnod myfyriwr cyn gynted â phosibl a chyn dydd Gwener 26 Ebrill 2024.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion eich cynllun.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru yn yr Adran, dylech gysylltu â:
Swyddfa Mathemateg a Ffiseg E-bost: fbrstaff@aber.ac.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, dylech gysylltu â:
Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd
Ffôn: 628515/622787
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk