Rhag-Gofrestru 2024/2025

Adran Y Gyfraith a Throseddeg

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.  

Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran y Gyfraith a Throseddeg:

Byddwn yn cadarnhau eich dewisiadau modiwl ar-lein. Fe welwch ganllawiau cyffredinol ar y broses ar eich cofnod (yr un un a ddefnyddiwch i weld eich canlyniadau arholiadau) ar y we.

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion eich cynllun gradd

(Cronfa Ddata Cynlluniau: https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/Law+%26+Criminology/ ) a bod y modiwlau yr hoffech eu cymryd ar gael yn y sesiwn nesaf (mae rhai modiwlau ar gael bob yn ail flwyddyn). I gael gwybodaeth am fodiwlau penodol, gweler y gronfa ddata modiwlau:

https://www.aber.ac.uk/cy/modules/deptfuture/Law+%26+Criminology/

Bydd darlith wedi'i recordio ymlaen llaw a thaflen yn cynnig cyngor i bob myfyriwr lle mae'n ofynnol iddynt rag-gofrestru ar gyfer 2023/24 ar Blackboard. Gweler ‘Rhag-gofrestru Ebrill 2023’ yn: DEPT-L-UG-O: Department of Law & Criminology Undergraduate Information. Mae myfyrwyr yn gyfrifol am ymgysylltu â'r cynnwys hwn CYN iddynt rag-gofrestru.

Bydd rhag-gofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9yb ddydd Iau 18 Ebrill tan ddydd Gwener 26 Ebrill. (Cyn y dyddiad hwn dim ond eich cofnod y byddwch yn gallu ei weld, nid gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau, ac yna aros am gadarnhad (trwy e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.

Ymgynghorwch â thudalennau Blackboard perthnasol am gymorth ychwanegol trwy sesiynau galw heibio ar-lein a gynhelir gan gydlynwyr y cynllun.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â:

Jen Phipps (Troseddeg) - jfp@aber.ac.uk
Dr Catrin Fflûr Huws (Astudiaethau’r Gyfraith a chyfrwng Cymraeg) - trh@aber.ac.uk

Nodwch:

LC2/31220 Business Law – nid yw’r modiwl yma ar gael i fyfyrwyr yn Adran y Gyfraith a Throseddeg sy'n ymgymryd â chynllun Cyfraith Sengl neu Prif Bwnc.

Y mae sawl modiwl ar gael ar lefel 1, 2, a 3.  Mae’n rhaid dewis y lefel perthnasol ac ni chaniateir i chi astudio modiwl rydych eisoes wedi astudio ar lefel is.

Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy eu cofnod myfyriwr cyn gynted â phosibl a chyn dydd Gwener 26 Ebrill 2024.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, dylech gysylltu â:

 

Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd               
Ffôn: 628515/622787        
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk