Rhag-Gofrestru 2024/2025
Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl, cynlluniau ar y cyd a chynlluniau Prif-Bwnc/Is-Bwnc yn yr Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol.
Bydd rhag-cofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9yb ar ddydd Iau 18 Ebrill - dydd Gwener 26 Ebrill. (Cyn y dyddiad hwn byddwch dim ond yn gallu gweld eich cofnod, ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau rhag-gofrestru ac yna disgwyliwch am gadarnhad (drwy'r e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.
SYLWER Bydd y dewisiadau modiwlau a wnewch wrth rag-gofrestru ar gyfer y modiwlau y byddwch yn eu hastudio’r flwyddyn nesaf. Rhaid i chi feddwl yn ofalus am eich penderfyniad gan y gallai fod yn amhosibl newid eich modiwlau ar ôl cofrestru ymlaen llaw. Felly, eich cyfrifoldeb chi yw cymryd y broses o rag-gofrestru o ddifrif a dewis eich modiwlau yn ofalus.
Caiff nifer y myfyrwyr a gaiff astudio pob modiwl opsiynol eu cyfyngu i reoli nifer y myfyrwyr sy'n astudio ar bob modiwl. Bydd y dyraniad ar sail y cyntaf i'r felin. Dim ond os oes lle ar fodiwl y bydd modd gwneud newid i’ch dewis modiwlau yn dilyn rhag-gofrestru. Ni chewch newid i fodiwl sydd wedi cyrraedd yr uchafswm myfyrwyr wedi cofrestru ar y modiwl.
Bydd y gwybodaeth adrannol penodol ar ddewisiadau modiwlau ar gael o ddydd Llun, 15 Ebrill, yn cynnwys dosbarthiad o lawlyfr Rhag-Gofrestru. Bydd sesiynau cynghori hefo’r Tîm Dysgu ac Addysgu yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth 16 Ebrill, rhwng 1-2yp ac bydd modd siarad gydag aelodau staff unigol am y modiwlau maen nhw’n eu cynnig yn 2024/2025 yn ystod eu horiau swyddfa yr wythnos honno yn ogystal ag mewn sesiwn rhwng 2:00yp a 3:00yp ar ddydd Mercher 17 Ebrill. Gwiriwch eich ebyst am wybodaeth bellach maes o law.
Bydd yr Adran yn cadarnhau dewisiadau modiwlau ar-lein cyn gynted â phosibl. Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy eu cofnod myfyriwr cyn gynted â phosibl a chyn dydd Gwener, 26 Ebrill 2024
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd: https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/International+Politics/
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, dylech gysylltu â:
Donia Richards E-bost: dsj@aber.ac.uk Ffôn: 622708
Dr Chris Phillips E-bost:chp54@aber.ac.uk Ffôn: 628672
Jack Rendall E-bost: jwr7@aber.ac.uk Ffôn: 621995
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, dylech gysylltu â:
Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd
Ffôn: 628515/622787
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk