Rhag-Gofrestru 2024/2025

Adran Mathemateg

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.

Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Mathemateg.

Dylech gadw llygad ar eich ebost gan y byddwch yn derbyn dogfennau briffio ar rhag-gofrestru ar eich e-bost cyn cofrestru. Dylech edrych ar y manylebau perthnasol ar gyfer eich cynllun o'r wê a dewis eich modiwlau yn unol â hynny: https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/Mathematics/

Bydd rhag-cofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9yb ar ddydd Iau 18 Ebrill  - dydd Gwener 26 Ebrill. (Cyn y dyddiad hwn byddwch dim ond yn gallu gweld eich cofnod, ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau rhag-gofrestru ac yna disgwyliwch am gadarnhad (drwy'r e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.

Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy eu cofnod myfyriwr cyn gynted â phosibl a chyn dydd Gwener 26 Ebrill 2024.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion eich cynllun.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru yn yr Adran, dylech gysylltu â:

Dr Tudur Davies (Cyfrwng Cymraeg)  Ffôn: 622813, E-bost: itd@aber.ac.uk
Dr Rob Douglas,    Ffôn:  622756, E-bost: rsd@aber.ac.uk

                              

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, dylech gysylltu â:

 

Swyddfa Mathemateg a Gwyddorau Ffisegol   
Ffôn: 628625        
E-bost: fbrstaff@aber.ac.uk

 

Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd    
Ffôn: 628515/622787   
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk