Rhag-Gofrestru 2024/2025

Gwyddorau Bywyd

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.

Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau o fewn yr Adran Gwyddorau Bywyd:

NODER: Ni fydd myfyrwyr BVSc nag myfyrwyr ar gynlluniau Nyrsio yn cymryd rhan yn rhag-gofrestru gan nad oes modiwlau opsiynol fel rhan o’r cynlluniau.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion eich cynllun: https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/Life+Sciences/

Bydd rhag-cofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9yb ar ddydd Iau 18 Ebrill  - dydd Gwener 26 Ebrill . (Cyn y dyddiad hwn byddwch dim ond yn gallu gweld eich cofnod, ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau rhag-gofrestru ac yna disgwyliwch am gadarnhad (drwy'r e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.

Bydd sgyrsiau cyn cofrestru ar gael ar-lein drwy Blackboard, ond efallai y bydd rhai sgyrsiau'n yn wyneb i wyneb  a dylech fonitro eich e-bost ar gyfer y wybodaeth hon.

 

NODIADAU PWYSIG:

Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy gofnod y myfyriwr cyn gynted â phosibl a chyn dydd Gwener 28 Ebrill 2024.

Blwyddyn Lleoliad Rhyngosod/Profiad Gwaith - Ni fydd Myfyrwyr sydd ar neu ar fin cychwyn Lleoliad Rhyngosod/Profiad Gwaith fel rhan o’r cwrs yn gymwys i gwblhau Rhag Gofrestru. Bydd rhaid iddynt gofrestru ym mis Medi 2024.

Myfyrwyr partneriaeth – Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â rhag -gofrestru Gwyddorau Bywyd, dylech gysylltu hefoTîm Gweinyddu Myfyrwyr Gwyddorau Bywyd drwy e-bost: ibtstaff@aber.ac.uk gan nodi Coleg Gwent ym maes pwnc yr e-bost.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru yn yr Adran, dylech gysylltu â’r Tîm Gweinyddu Myfyrwyr adrannol ar ibtstaff@aber.ac.uk

 

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau cyffredinol at:

Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd                   
Ffôn: 628515/622273     
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk