Rhag-Gofrestru 2024/2025
Adran Hanes a Hanes Cymru
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl, cyfun a phrif bwnc/is-bwnc yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru :
Cynhelir sesiynau cyngor rhag-cofrestru yn yr Adran ar dri diwrnod yn unig, dydd Llun 15 Ebrill - dydd Mercher 17 Ebrill. Rhaid i chi gael eich dewisiadau wedi'u hawdurdodi gan eich tiwtor personol yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd rhag-cofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9yb ar ddydd Iau 18 Ebrill - dydd Gwener 26 Ebrill (Cyn y dyddiad hwn byddwch dim ond yn gallu gweld eich cofnod, ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau rhag-gofrestru ac yna disgwyliwch am gadarnhad (drwy'r e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.
Mae pob modiwl wedi'i gyfyngu'n electronig; felly mae'n bwysig eich bod yn cofrestru ar-lein cyn gynted â phosibl, gan fod lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion eich cynllun:
https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/History+and+Welsh+History/
RHAID i'ch dewisiadau personol gael eu cymeradwyo gan eich tiwtor personol cyn cofrestru ar-lein i sicrhau bod modiwlau craidd a nifer y credydau cywir yn cael eu cymryd - efallai na fydd y dewis o fodiwlau a gofnodwyd gan yr Adran ymlaen llaw yn gwarantu eich lle ar y modiwl. Caiff y system gofrestru ei gyfyngu’n electronig, felly os gwelwch fod y dewisiadau modiwlau yr oeddech chi eu heisiau yn llawn, cysylltwch â Dr Rhun Emlyn, rre@aber.ac.uk, Tiwtor Rhan Dau i drafod eich opsiynau.
Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy eu cofnod myfyriwr cyn gynted â phosibl a chyn dydd Gwener 26 Ebrill.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru, dylech gysylltu â:
Dr Rhun Emlyn Ffôn: 622666 E-bost: rre@aber.ac.uk
Glesni Davies Ffôn: 621917 E-bost: glr@aber.ac.uk
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau cyffredinol at:
Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd
Ffôn: 628515/622787
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk