Rhag-Gofrestru 2024/2025

Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.

Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau sengl a chynlluniau ar y cyd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

Dylech nodi nad yw rhifau ar y modiwlau craidd canlynol wedi'u capio:

EN20120               Literary Theory: Debates and Dialogues

EN30120               Reading Theory/Reading Text

EN30000/40          Dissertation

WR20220              Beginning the Novel

WR30000/40         The Writing Project

 

Mae'r modiwlau sy'n weddill i gyd yn opsiynau ac mae'r rhifau ar y rhain wedi'u capio.

Mae gan yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol broses ddwy-ran gorfodol ar gyfer cofrestru modiwlau. Rhan 1: Cofrestru Amodol; a Rhan 2: Rhag-Gofrestru.

Bydd llyfrynnau rhag-gofrestru adrannol, sy'n rhoi manylion am strwythurau a modiwlau'r cynllun gradd ar gyfer 2024-25,yn cael dosbarthu drwy e-bost erbyn dydd Gwener 29 Mawrth 2024 (wythnos 8). Bydd copïau o ffurflen dewis modiwl rhag-gofrestru'r adran yn cael ei gyrru allan erbyn diwedd yr wythnos sydd yn terfyn ar 12 Ebrill. Bydd y deunyddiau hyn hefyd ar gael ar Blackboard (tudalennau Gwybodaeth Israddedigion yr Adran) erbyn yr un dyddiadau.

Rhan 1: Cwblhawyd ffurflen dewis modiwl rhag-gofrestru'r adran gan fyfyrwyr yn ystod sesiynau gorfodol a drefnwyd o flaen llaw rhwng 15 Ebrill a 17 Ebrill. Dylid myfyrwyr sydd yn methu ei sesiwn i gwblhau y ffurflen ddychwelyd eu ffurflenni cyn gynted a sy’n bosib, yn ddelfrydol yn ystod yr wythnos yna, a cyn i Rag-Gofrestru ar lein gychwyn.

Dylai myfyrwyr sydd ag ymholiadau munud olaf am rhag-gofrestru ymgynghori â’r adran naill ai drwy e-bost (engstaff@aber.ac.uk) yn ystod tri diwrnod cyntaf tymor yr haf (15 Ebrill - 17 Ebrill 2024).

Rhan 2: Bydd rhag-cofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9.00yb ar 18 Ebrill – dydd 26 Ebril. (Cyn y dyddiad hwn byddwch dim ond yn gallu gweld eich cofnod, ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau rhag-gofrestru ac yna disgwyliwch am gadarnhad (drwy'r e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.

Mae’n rhaid cwblhau y broses yma erbyn 26 Ebrill 2024.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru yn yr Adran, dylech gysylltu â:

Adran Saesneg                       Ffôn: 622535                      E-bost: engstaff@aber.ac.uk

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, dylech gysylltu â:

Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd       
Ffôn: 628515/622787        
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk