Rhag-Gofrestru 2024/2025
Ysgol Addysg
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn BA Astudiaethau Plentyndod [X320], BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar [X322], BA Addysg [X302], BA Addysg (gyda blwyddyn sylfaen integredig) [X30F] a cynlluniau ar y cyd a chynlluniau prif-bwnc/is-bwnc yn yr Ysgol Addysg.
Mae hyn yn berthnasol hefyd i fyfyrwyr Coleg Cambria sy’n cymryd BA Astudiaethau Plentyndod [X320], FDA Astudiaethau Plentyndod [X321], PCET Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg i Raddedigion [X101] a PCET Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg [X102].
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
Eleni, byddwn yn cadarnhau dewisiadau modiwlau ar-lein. Fe welwch ganllawiau cyffredinol ar y we.
Myfyrwyr Aberystwyth:
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â dewisiaidau modiwl ar gael ar Blackboard ar ‘Dudalen Gartref Gwybodaeth Israddedigion yr Ysgol Addysg’ o dan ‘Rhag Gofrestru’. Fedrwch gael mynediad i’r modiwl yma drwy ddilyn y linc canlynol:
Ar y modiwl yma mae recordiad a dogfen Powerpoint sydd yn dangos y modiwlau craidd/opsiwn ar gyfer eich cynllun gradd.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion eich cynllun: https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/Education/ Nodwch bod rhaid i fyfyrwyr ar gynlluniau ar y cyd a phrif bwnc gwblhau ED/AD20320 ym mlwyddyn 2 o’’r cwrs os ydynt am gofrestru ar ED/AD33640 Major Dissertation/Traethawd Estynedig ym mlwyddyn 3. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â hyn ar gael ar Blackboard.
Rhaid i fyfyrwyr Anrhydedd Cyfun ac myfyrwyr Prif bwnc fod wedi cymryd ED / AD20320 ym mlwyddyn 2 os ydynt i gofrestru ar ED33640 Traethawd Hir Mawr neu AD33640 Traethawd Estynedig.
Bydd yr Adran hefyd yn cynnal sesiynau cynghori drwy MS Teams rhing 17 a 19 o Ebrill. Byddwch yn derbyn gwahoddiad MS Teams ar gyfer hyn. Dylech fynychu rhain os oes gennych unrhyw gwestiynau am Rhag-Gofrestru neu eich deisiadau modiwl.
Dylai myfyrwyr Coleg Cambria ymgynghori â’ch tiwtoriaid i weld pa fodiwlau sydd ar gael ichi.
Bydd rhag-cofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9yb ar ddydd Iau 18 Ebrill - dydd Gwener 26 Ebrill . (Cyn y dyddiad hwn byddwch dim ond yn gallu gweld eich cofnod, ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau rhag-gofrestru ac yna disgwyliwch am gadarnhad (drwy'r e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.
Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy eu cofnod myfyriwr cyn gynted â phosibl a chyn dydd Gwener 26 Ebrill 2024.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru neu eich modiwlau yn yr Ysgol Addysg, dylech gysylltu â:
Myfyrwyr Aberystwyth
Sian Lloyd Williams (Ymholiadau Blwyddyn 2) Ebost: sil22@aber.ac.uk
Lucy Trotter (Ymholiadau Blwyddyn 3) Ebost: lut22@aber.ac.uk
Katie Mallows (Ymholiadau Adrannol) Ebost: add-ed@aber.ac.uk
Rosemary Cann (Ymholiadau Adrannol) Ebost: ooj@aber.ac.uk
Myfyrwyr Coleg Cambria:
Gary Wyn-Jones (Ymholiadau Is-raddedig) Ebost : gary.wyn-jones@cambria.ac.uk
Hannah Mobbs (Ymholiadau Is-raddedig) Ebost : hannah.mobbs@cambria.ac.uk
Rebecca Mountfield-Pawlett (Ymholiadau PCET, PGrCE/PCE)
Ebost : rebecca.mountfield-pawlett@cambria.ac.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol, dylech gysylltu â:
Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd Ffôn: 628515/622787 E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk
Bydd myfyrwyr yn gallu mynd ar-lein drwy eu cofnod myfyriwr o ddydd Iau 18 Ebrill tan ddydd Gwener 26 Ebrill i nodi eu dewisiadau modiwl. Dylech sicrhau eich bod yn gwneud hyn cyn gynted â phosibl.
Dylai myfyrwyr Coleg Cambria ymgynghori â'ch tiwtoriaid i ganfod pa fodiwlau sydd ar gael i chi.