Rhag-Gofrestru 2024/2025

Adran Cyfrifiadureg

Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.

Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynlluniau yn yr Adran Cyfrifiadureg.


Cynhelir y canlynol i fyfyrwyr gael cyngor ac gwybodaeth ar ddilyniant.

Sgwrs Blwyddyn Sylfaen yng nghyfnod CS02320 Dydd Mawrth 16 Ebrill 10:10-10:20yb, LL-G3

Sgwrs Blwyddyn 1 yng nghyfnod CC/CS12320 Dydd Llun 15 Ebrill at 11:10-11:25yb, MP-0.15

Year 2 talk in lecture slot for CC/CS22120/CS22220 Dydd Mawrth 16 April, 5:10-6yb MP-0.15

 

Bydd sgyrsiau a recordwyd o flaen llaw ar gael drwy Blackboard ar gyfer pob blwyddyn o ddydd Llun 15 Ebrill.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion eich cynllun:

(https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/Computer+Science/)

Bydd rhag-cofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9yb ar ddydd Iau 18 Ebrill  - dydd Gwener 26 Ebrill. (Cyn y dyddiad hwn byddwch dim ond yn gallu gweld eich cofnod, ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau rhag-gofrestru ac yna disgwyliwch am gadarnhad (drwy'r e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.

Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy eu cofnod myfyriwr cyn gynted â phosibl a chyn dydd Gwener 26 Ebrill 2024. Peidiwch a cwblhau’r dasg rhag gofrestru cyn eich bod wedi darllen y gwybodaeth cynghori.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru yn yr Adran, dylech edrych ar dudalen Gwybodaeth Israddedigion Cyfrifiadureg ar Blackboard, ble mae copïau o holl ddeunyddiau cynghori.

Neu, unwaith yr ydych wedi gwirio y gwybodaeth ar Blackboard, ebostiwch cs-exam-advice@aber.ac.uk

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau cyffredinol at:

 

Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd                   
Ffôn: 628515/622787     
E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk