Rhag-Gofrestru 2024/2025
Yr Ysgol Gelf
Os ydych chi'n dilyn cynllun gradd sy'n cael ei addysgu ar y cyd ag adran arall, rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni eu gofynion rhag-gofrestru hefyd.
Mae'r canlynol yn ofynion penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn cynllun astudio yn yr Ysgol Gelf.
Bydd Adran yn eich e-bostio hefo gwybodaeth ynglyn a dewis modiwlau, ac anogir myfyrwyr i e-bostio'ch tiwtoriaid (ymarfer personol neu gelf) i drafod eich dewisiadau.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion eich cynllun:
https://www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/deptfuture/Art/
Bydd rhag-cofrestru ar-lein ar agor i fyfyrwyr o 9yb ar ddydd Iau 18 Ebrill - ddydd Gwener 26 Ebrill. (Cyn y dyddiad hwn byddwch dim ond yn gallu gweld eich cofnod, ni fyddwch yn gallu gwneud unrhyw ddewisiadau modiwl). Ewch ar-lein a chwblhewch y dudalen rhag-gofrestru, cyflwynwch eich dewisiadau rhag-gofrestru ac yna disgwyliwch am gadarnhad (drwy'r e-bost) gan yr adran(nau) perthnasol.
Unwaith y byddwch wedi dewis eich modiwlau bydd aelodau o staff yr Ysgol Gelf yn eu cadarnhau ar-lein.
Cynghorir myfyrwyr i gwblhau'r broses ar-lein trwy eu cofnod myfyriwr cyn gynted â phosibl a chyn dydd ddydd Gwener 26 Ebrill 2024. .
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch rhag-gofrestru yn yr Ysgol Gelf, dylech gysylltu â:
Suzie Watkin Tel: 622460 E-bost: srw@aber.ac.uk
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau cyffredinol at:
Ymholiadau Gweinyddu Myfyrwyr
Y Gofrestrfa Academaidd Ffôn: 628515/622787 E-bost: ugfstaff@aber.ac.uk